Ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor yn mynd yn fyw – y cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan gan fod angen arbedion
Council budget consultation goes live – public urged to take part as savings needed
Mae Cyngor Sir Penfro yn cychwyn ar gam hanfodol yn y broses o bennu ei gyllideb ac mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan.
Mae ymgynghoriad ar y gyllideb wedi cael ei lansio er mwyn helpu’r Cyngor i ddeall pa wasanaethau sy’n bwysig i’r cyhoedd wrth i’r Awdurdod Lleol wynebu dewisiadau anodd ar gyfer 2025-26 a thu hwnt.
Fel Cynghorau eraill yng Nghymru, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu pwysau parhaus ar y gyllideb a bydd angen iddo wneud arbedion.
Mae’r pwysau ar y gyllideb yn cael ei achosi gan lawer o ffactorau, gan gynnwys cynnydd yn nifer y bobl sydd angen help gan y Cyngor, yn enwedig mewn ysgolion ac ym meysydd gofal cymdeithasol i blant ac oedolion a digartrefedd.
Amcangyfrifir y bydd bwlch ariannu o £34.1 miliwn ar gyfer 2025-26, ac mae’n bosibl y bydd yn cynyddu ymhellach.
Dim ond mewn nifer cyfyngedig o ffyrdd y gellir llenwi’r bwlch ariannu:
- Cynyddu’r gyfradd Treth Gyngor a godir (mae pob cynnydd o 1% yn cynhyrchu tua £820,000 o incwm ychwanegol).
- Newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu (arbedion effeithlonrwydd, y Cyngor yn darparu llai o wasanaethau ac ati).
- Cynyddu’r swm a godir ar gyfer rhai gwasanaethau.
Mae nifer o gynigion a fydd, o bosibl, yn effeithio ar y ffordd y bydd y cyhoedd yn cael gwasanaethau.
Gallwch chi roi eich barn ar opsiynau’r Cyngor ar gyfer gwneud arbedion o ran y gyllideb drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein yma: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriad-cyllideb-25-26
Mae’r ymgynghoriad ar-lein hefyd yn cynnwys adnodd modelu cyllideb y gellir cael gafael arno yma:
https://opsiynaucyllideb.sir-benfro.gov.uk/
Dywedodd y Cynghorydd Josh Beynon, Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol ac Arbedion: “Gosod y gyllideb yw un o rolau pwysicaf y Cyngor ac, fel pob Awdurdod Lleol, mae’n dod yn fwyfwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
“Mae mewnbwn y cyhoedd i’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn bwysig iawn, ac rwyf eisiau tawelu meddyliau trigolion bod eich anghenion a’ch blaenoriaethau chi ar flaen ein meddyliau wrth i ni ymgymryd â’r broses hon o osod y gyllideb.
“Rydym yn wynebu heriau sylweddol, ond rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â nhw mewn ffordd sy’n diogelu ein cymunedau ac sy’n sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ar gyfer Sir Benfro.”
Os hoffech chi gael copi papur o’r ffurflen ymateb, ffoniwch 01437 764551 neu anfonwch e-bost i enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 5 Ionawr 2025.
Bydd rhagor o wybodaeth am y gyllideb yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ar 2 Rhagfyr a bydd modd gweld y wybodaeth honno yn https://www.sir-benfro.gov.uk/y-cyngor-a-democratiaeth
Bydd y Gyllideb yn cael ei gosod gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2025.