Ymgynghoriad ynghylch Newidiadau i Wasanaethau Bysiau – Tref Hwlffordd, Pontfadlen, Aberllydan
Consultation regarding bus service changes – Haverfordwest Town, Merlins Bridge, Broad Haven
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i nifer o wasanaethau bws yn ardaloedd Hwlffordd, Pontfadlen ac Aberllydan.
Nod y newidiadau hyn yw ehangu cwmpas y gwasanaeth a darparu mwy o gyfleoedd i deithio.
Mae’r cynigion yn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:
- 301 – Gwasanaeth Tref Hwlffordd (Ni fydd y gwasanaeth yn galw yn Augustine Way bellach. Bydd safle bws newydd ar Scarrowscant Lane)
- Gwasanaeth Newydd – Hwlffordd – Llwybr Cylchol Pontfadlen
- 308 – Hwlffordd – Llangwm – Llwybr Cylchol Burton (Bydd taith y prynhawn yn galw ym Mharc Manwerthu Llwynhelyg ac Ysbyty Llwynhelyg)
- 311 – Hwlffordd i Aberllydan (Bydd dwy daith ddwyffordd ychwanegol yn cael eu darparu)
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor.
Os hoffech wneud unrhyw sylwadau am y cynigion hyn, anfonwch neges e-bost at public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437 764551 erbyn 12 canol dydd, ddydd Llun 30 Medi.