Ymgyrch Diogelwch Ffyrdd Cymru – Mae Stop yn golygu Stop
Road Safety Wales campaign - Stop means Stop
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru a Chyngor Sir Penfro yn atgoffa gyrwyr o’u cyfrifoldebau wrth ddod ar draws hebryngwyr croesfannau ysgol wrth i’r tymor newydd agosáu.
Mae hebryngwyr croesfannau ysgol yn aelodau ymroddedig a gwerthfawr o’r ysgol a’r gymuned ehangach, sy’n troi allan, er gwaethaf y tywydd, i gadw pobl yn ddiogel wrth groesi’r ffordd.
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif o fodurwyr yn ufudd i’r gyfraith, yn gwrtais ac yn stopio yn unol â’r cyfarwyddiadau. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod gyrwyr a beicwyr modur yn cydymffurfio â’r gyfraith i wella diogelwch ger ysgolion.
Mae’n hanfodol bod modurwyr yn deall bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnynt i ufuddhau i’r signalau a roddir gan hebryngwyr croesfannau ysgol, a chyn gynted ag y byddant yn codi eu harwydd, hyd yn oed os nad ydynt wedi camu i’r ffordd, rhaid i fodurwyr fod yn barod i stopio.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Nid yn unig bod ymgyrch Diogelwch Ffyrdd Cymru yn tynnu sylw at y gofyniad i yrwyr gydymffurfio ag arwyddion hebryngwyr croesfannau ysgol, ond hefyd y ffaith anffodus bod llawer o hebryngwyr croesfannau yn wynebu cam-drin geiriol, bygythiadau a pherygl gan gerbydau sy’n symud, dim ond am wneud eu gwaith.
“Wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol rhaid i ni i gyd fod yn ymwybodol o’n staff rhagorol ger croesfannau ysgol a’r gwaith y maen nhw’n ei wneud i gadw pobl ifanc yn ddiogel.”
Gallai gyrwyr gael dirwy o hyd at £1,000 a thri phwynt cosb ar eu trwydded os ydynt yn methu â stopio o fewn pellter diogel o’r hebryngydd croesfan ysgol neu’n dechrau symud i ffwrdd tra bod yr arwydd Stop yn cael ei arddangos.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Does dim esgus dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Hebryngwr. P'un a ydych chi'n hwyr neu heb sylweddoli bod RHAID ichi stopio, mae gennych chi gyfrifoldeb, yn gyfreithiol ac yn foesol, i osgoi creu risg i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
"Dylai pob plentyn a'i warcheidwad yng Nghymru fod yn ddiogel wrth groesi'r ffordd i'r ysgol."
Anogir y rhai sy'n dyst i ddigwyddiad neu sy'n rhan o ddigwyddiad i'w riportio i'r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng. Gallwch gyflwyno fideos neu luniau ffotograffig hefyd i GanBwyll trwy Ymgyrch SNAP. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gosafesnap.wales.