English icon English
Steven Richards-Downes, Cerys Foss,  Jeremy Miles, Christine Williams,  Jane Harries, Headteacher,  Paul Davies,  Troy Goodridge

Ymweliad Gweinidogol â dwy o ysgolion Hwlffordd

Ministerial visit for two Haverfordwest Schools

Mwynhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ymweliadau â dwy o ysgolion Hwlffordd ddydd Gwener, 2 Chwefror.

Ymwelodd Mr Miles ag Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd ac Ysgol Portfield, gan fynd ar daith o gwmpas safleoedd y ddwy ysgol a chyfarfod â disgyblion, staff ac arweinwyr addysg lleol.

Agorwyd Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd yn swyddogol gan EHB Y Dywysoges Frenhinol ym mis Hydref 2022.

Ariannwyd yr ysgol ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru o dan ei Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer 1500 o ddisgyblion 11-16 oed a 250 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth.

Yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd, croesawyd Mr Miles gan y Pennaeth, Jane Harries, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Penfro, Steven Richards-Downes, AS Preseli Sir Benfro, Paul Davies, a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Mrs Christine Williams. Yna, rhoddwyd taith i Mr Miles o gwmpas y cyfleusterau trawiadol gan y Brif Ferch, Cerys Foss, a’r Prif Fachgen, Troy Goodridge, gan gynnwys ymweld â chyfarfod o’r Cyngor Ysgol.

Hwest High visit

Yn nes ymlaen, ymwelodd Mr Miles ag Ysgol Portfield, sy’n darparu addysg i ddisgyblion 11-19 oed â datganiadau o anghenion addysgol arbennig. Cyfarfu Mr Miles ag Uwch Dîm Arwain yr ysgol ynghyd â’r Brif Ferch, Celyn Sollis, a’r Prif Fachgen, Lewis Edwards, a chafodd daith fer o gwmpas yr ysgol. Fe wnaeth hyn gynnwys ymweld â lleoliad yr adeilad newydd arfaethedig ar gyfer ysgol y cyfnod cynradd a bloc y Chweched Dosbarth.

Hefyd, manteisiodd Mr Miles ar y cyfle i siarad â disgyblion a staff sy’n ymwneud â phrosiect Taith, sef rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu. Mwynhaodd disgyblion a staff Portfield ymweliad â Bruges yng Ngwlad Belg y llynedd ac maen nhw’n cynllunio’r daith nesaf i Sweden yn barod.

Portfield visit

Yn dilyn yr ymweliadau, dywedodd Mr Miles: “Roedd hi’n wych gweld Ysgol Uwchradd newydd Hwlffordd, sy’n hynod drawiadol, ac roedd hi’n bleser gwirioneddol clywed a gweld yn uniongyrchol sut mae’r ysgol yn rhoi platfform dysgu arloesol ac amgylchedd cefnogol i ddysgwyr er mwyn eu helpu i gyrraedd eu potensial.

“Yn Ysgol Portfield, clywais gan ddisgyblion a staff am eu teithiau Taith diweddar i Wlad Belg a Sweden, a sut mae’r profiad wedi helpu i fagu hyder, ehangu gorwelion a thyfu dyheadau. Mae wir yn galonogol gweld yr effaith mae Taith yn ei chael, sy’n ein galluogi i chwalu ffiniau rhag cyfnewid rhyngwladol ac agor cyfleoedd i bawb.”

Meddai Mrs Harries, Pennaeth Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd a Phennaeth Gweithredol Ysgol Portfield: “Rhannom gyda Mr Miles y ffyrdd niferus mae’r ysgol yn cefnogi ein disgyblion mewn cymdeithas sy’n parhau i fod yn fwyfwy heriol.

“Bu modd iddo siarad â staff a disgyblion, a esboniodd sut mae ein hysgol nawr yn darparu cymaint yn fwy nag addysg academaidd, sy’n hanfodol iddynt, sut mae’r ysgol wedi addasu i ofynion y Bil ADY a sut roedd trefniadau eu Hwythnosau Anghymesur yn hwyluso datblygiad proffesiynol a chydweithredu mewn clystyrau.”

Hwest High pupils

 

Nodiadau i olygyddion

Penawdau

Ffotograffau Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd:

O’r chwith i’r dde:

Mr Steven Richards Downes, Cyfarwyddwr Addysg; Cerys Foss, Prif Ferch; Mrs Christine Williams, Cadeirydd y Llywodraethwyr; Mr Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Mrs Jane Harries, Pennaeth; Mr Paul Davies AS; Troy Goodridge, Prif Fachgen.

O’r chwith i’r dde

Mr Steven Richards Downes, Cyfarwyddwr Addysg; Cerys Foss, Prif Ferch; Mr Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Mrs Christine Williams, Cadeirydd y Llywodraethwyr; Mrs Jane Harries, Pennaeth; Mr Paul Davies, Aelod o’r Senedd; Troy Goodridge, Prif Fachgen

Isod, mae ffotograffau o Mr Miles yn cyfarfod â disgyblion mewn sesiynau sgiliau bywyd ac yn trafod materion cyfredol gydag aelodau o’r Cyngor Ysgol.

Ffotograffau o Ysgol Arbennig Portfield

Mr Miles yn ymuno â disgyblion a staff, a ymwelodd â Bruges yn ddiweddar.