English icon English
Milford Haven School pupils with the UNICEF Gold Award

Ysgol Aberdaugleddau yn ennill Gwobr Aur Anrhydeddus Ysgol sy'n Parchu Hawliau UNICEF

Milford Haven School Achieves Prestigious UNICEF Gold Rights Respecting School Award

Mae Ysgol Aberdaugleddau yn falch o gyhoeddi mai hi yw'r ysgol uwchradd gyntaf yn Sir Benfro a'r seithfed yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur anrhydeddus Ysgol sy'n Parchu Hawliau UNICEF.

Mae'r anrhydedd hon yn dathlu ymrwymiad rhagorol yr ysgol i roi hawliau plant wrth wraidd ei hethos, ei pholisïau a'i hymarfer.

Gwobr Aur Ysgol sy'n Parchu Hawliau UNICEF yw'r cyflawniad uchaf a roddir i ysgolion yn y DU am ymgorffori hawliau plant ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. Mae ysgolion sy'n ennill Aur wedi dangos bod plant a phobl ifanc yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu ac yn meddu ar ymdeimlad cryf o berthyn. Mae Ysgol Aberdaugleddau wedi dangos ymroddiad diwyro i feithrin diwylliant o barch at ei gilydd, cynhwysiant a chyfranogiad gweithredol disgyblion.

Mynegodd Ms Morris, Pennaeth Ysgol Aberdaugleddau, ei balchder yn y cyflawniad: “Mae hwn yn achlysur pwysig iawn i'n hysgol a'n cymuned. Mae ennill Gwobr Aur Ysgol sy'n Parchu Hawliau yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff, ein disgyblion a'n cymuned.

“Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylchedd dysgu lle mae pob disgybl yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei glywed a'i rymuso. Rydyn ni’n credu mewn meithrin diwylliant o barch a chyfrifoldeb, ac mae'r wobr hon yn dilysu ein hymdrechion i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i bopeth a wnawn.”

Mae'r Wobr Ysgol sy'n Parchu Hawliau yn cydnabod ysgolion sydd wedi integreiddio egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'w hethos yn llawn.

Mae'r broses asesu yn cynnwys gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn hyrwyddo parch at hawliau, cydraddoldeb a chyfranogiad gweithredol disgyblion wrth lunio eu profiad addysgol. Dangosodd Ysgol Aberdaugleddau ragoriaeth ym mhob maes, gan ennill y statws Aur mawr ei fri.

Canmolodd cynrychiolwyr o UNICEF yr ysgol am ei hymdrechion rhyfeddol. Fe wnaethant dynnu sylw at y mentrau dan arweiniad disgyblion, prosiectau cydweithredol, ac ymrwymiad parhaus i hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang ac addysg hawliau dynol.

Mynegodd Miss Reynolds, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Aberdaugleddau ac arweinydd eu gwaith Ysgol sy'n Parchu Hawliau, falchder aruthrol yn ymroddiad a gwaith caled y disgyblion a'r staff.

“Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o ymroddiad cymuned yr ysgol gyfan i hyrwyddo hawliau plant a chreu amgylchedd parchus a chynhwysol. Mae'r gydnabyddiaeth yn tynnu sylw at yr ymrwymiad parhaus i les a datblygiad disgyblion fel rhan o ethos yr ysgol.

“Rydym yn edrych ymlaen at rannu sut y byddwn yn parhau â'r gwaith gwych yr ydym wedi bod yn ei wneud yn Ysgol Aberdaugleddau gyda chi yn ystod y misoedd nesaf," ychwanegodd.

Milford School Gold-3

Mae disgyblion Ysgol Aberdaugleddau wedi bod yn allweddol wrth ysgogi’r agenda Parchu Hawliau. Mae grwpiau llais disgyblion yr ysgol wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob disgybl yn deall ei hawliau a phwysigrwydd parch a chydraddoldeb. Mae'r grwpiau hyn wedi arwain ymgyrchoedd, trefnu digwyddiadau, ac wedi cyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd ysgol, gan helpu meithrin ymdeimlad cryfach o berchnogaeth a chyfrifoldeb o fewn llais y disgybl.

Dywedodd un disgybl "mae bod yn rhan o Ysgol sy'n Parchu Hawliau yn golygu ein bod yn cael y cyfle i leisio ein barn, rydym yn gwybod fel pobl ifanc bod ein lleisiau a’n syniadau'n cael eu clywed. Mae hynny'n rhoi'r hyder i ni weithredu newid a gwneud gwahaniaeth.”

Mae cymuned yr ysgol gyfan yn dathlu'r cyflawniad hwn, meddai'r Cyfarwyddwr Addysg Mr Steven Richards-Downes: "Mae Ysgol Aberdaugleddau wedi gwella Hawliau Plant yn gyson yn yr ysgol ac mae hyn wedi arwain at ennill gwobr Aur Ysgol sy'n Parchu Hawliau. Mae'r ysgol yn rhoi'r hawliau hynny wrth wraidd popeth y maent yn ei wneud sy'n dod â manteision sylweddol i'w dysgwyr."

Screenshot 25-9-2024 141833