Ysgol Caer Elen yn dathlu llwyddiant ysgubol adroddiad Estyn
Ysgol Caer Elen celebrates outstanding Estyn report success
Mae Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd wedi derbyn adroddiad disglair gan yr arolygiaeth addysg Estyn.
Arolygwyd yr ysgol Gymraeg ym mis Chwefror a chanfu'r Arolygwyr fod yr ysgol yn “gymuned ofalgar a chynhwysol Gymreig lle mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu.”
Fe wnaeth yr adroddiad ddarganfod y canlynol:
- Mae'r Pennaeth a'r uwch dîm rheoli yn angerddol ac yn cynnal y safonau uchaf ar gyfer staff a disgyblion.
- Mae arweinwyr yn gweithio'n galed wrth adeiladu dilyniant parhaus sy'n caniatáu i Ysgol Caer Elen weithredu fel ysgol lwyddiannus i bob oed.
- Mae disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn. Maen nhw’n gwrtais ac yn trin ei gilydd ac oedolion yn gwrtais a gyda pharch. Maen nhw’n dangos mwynhad ym mywyd yr ysgol a boddhad gyda'u dysgu.
- Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ymwybyddiaeth gref o bwysigrwydd byw bywyd iach, yn gorfforol ac yn feddyliol. Maen nhw’n cymryd rhan barod mewn cyfleoedd i gadw'n heini a dysgu am eu hiechyd a'u lles.
- Mae agweddau disgyblion tuag at eu haddysg a'r iaith Gymraeg yn dda iawn.
- Mae'r ddarpariaeth i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gynhwysfawr iawn.
- Mae gweledigaeth glir i greu ysgol sy'n 'sefydliad sy'n dysgu'.
- Mae'r holl staff a disgyblion yn cofleidio arwyddair yr ysgol, 'Daw derwen fawr o fesen fach' ac yn cymryd perchnogaeth o'u rolau a'u cyfrifoldebau.
Amlygodd yr adroddiad fod gan ddisgyblion lais gweithredol ym mywyd yr ysgol.
Dywedodd: “Nodwedd ragorol o waith yr ysgol yw ystod o gyfleoedd gwerthfawr sydd ar gael i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ar draws meysydd perthnasol y cwricwlwm.
“O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf ac yn cyrraedd safonau uchel yn eu sgiliau, yn enwedig eu sgiliau darllen a digidol.”
Canfuwyd bod yr ysgol yn dathlu Cymreictod ac yn hyrwyddo pob cyfle i ddatblygu fel dysgwyr dwyieithog hyderus.
Wedi’i amlygu ymhellach yn yr adroddiad oedd:
- Nodwedd ragorol o waith yr ysgol yw ystod o gyfleoedd gwerthfawr sydd ar gael i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ar draws meysydd perthnasol y cwricwlwm. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf ac yn cyrraedd safonau uchel yn eu sgiliau
- Ar draws yr ysgol, mae perthynas waith ardderchog rhwng staff a disgyblion. Mae'r staff wedi llwyddo i greu ethos cynhwysol, cartrefol a pharchus ym mhob dosbarth.
- Mae arweinyddiaeth gref wedi cyfrannu at sicrhau safonau uchel o les, cynnydd cadarn disgyblion, ac addysgu effeithiol.
Bydd argymhellion i ehangu'r ystod o gyrsiau yng Nghyfnod Allweddol 4 a chryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol yng Nghyfnod Allweddol 4 yn mynd rhagddynt yn awr.
Croesawodd y Pennaeth Dafydd Hughes yr adroddiad. Dywedodd: “Ers agor ei drysau yn 2018 mae Ysgol Caer Elen wedi datblygu i fod yn Ysgol Gymraeg 3-16 mlwydd oed ffyniannus.
“Mae adroddiad Estyn yn cadarnhau bod yr ysgol yn darparu'r cymorth addysgol, diwylliannol a lles sy'n hanfodol i ddisgyblion er mwyn iddynt gyflawni eu potensial a chyflawni eu dyheadau.
“Mae cydweithio effeithiol rhwng llywodraethwyr, staff, yr awdurdod lleol, rhieni/gofalwyr a disgyblion wrth wraidd popeth yr ydym ni’n ymdrechu i'w gyflawni.
“Hoffwn ddiolch i bob aelod o gymuned Ysgol Caer Elen am wneud cyfraniad mor bwysig tuag at ddatblygiad yr ysgol.
“Mae'n fraint gallu arwain y tîm hwn a sicrhau bod ein disgyblion gwych yn gallu tyfu o fes bach i fod yn dderw cryf.”
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg a Dysgu Gydol Oes: “Rwy'n llongyfarch ar arolygiad gwych gan Estyn i bawb yn Ysgol Caer Elen.
“Nid yw canlyniadau fel hyn yn digwydd ar ddamwain, maen nhw’n ganlyniad i bawb yn gweithio'n galed, yn cyd-dynnu ac yn ymdrechu am ragoriaeth barhaus.”