Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth yn dathlu adroddiad arolygu rhagorol gan Estyn
Narberth Community Primary School celebrates outstanding Estyn inspection report
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth yn dathlu ei hadroddiad arolygu Estyn diweddaraf sy’n cydnabod yr ysgol fel "cymuned hapus, gynhwysol, ddwyieithog.”
Mae’r adroddiad cadarnhaol yn tynnu sylw at y ffaith bod bron pob disgybl yn gwneud cynnydd cryf ac yn ffynnu mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol.
Mae ei llwyddiant fel ysgol ddwy ffrwd, lle mae darpariaeth Gymraeg a Saesneg yn ffynnu o fewn cymuned gwbl gynhwysol, hefyd yn cael ei ganmol gan y corff arolygu safonau ysgolion cenedlaethol.
Hefyd yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad mae ethos meithringar yr ysgol, addysgu o ansawdd uchel ac arweinyddiaeth gref, yn ogystal ag ymrwymiad arweinwyr, llywodraethwyr a staff i sicrhau bod pob disgybl yn llwyddo.
Canfu arolygwyr fod bron pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gartrefi incwm isel, yn “gwneud cynnydd cryf o’u mannau cychwyn” ac yn “dangos agwedd ragorol tuag at eu dysgu.”
Dywedodd y Pennaeth, Mrs Kate Moore: “Rydym wrth ein bodd gyda’r adroddiad hwn ac yn hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd gyda’n gilydd fel cymuned ysgol gyfan.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymroddiad, gwaith tîm ac angerdd ein staff, llywodraethwyr, disgyblion a theuluoedd. Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gofalgar, cynhwysol ac ysbrydoledig lle gall pob plentyn ffynnu.
“Mae’r adroddiad hwn yn dathlu ymdrechion eithriadol ein holl dîm staff, y mae eu hymrwymiad i’n disgyblion yn amlwg bob dydd. Rwy’n hynod falch o’r ffordd y mae cydweithwyr yn cydweithio i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a chefnogi pob plentyn i gyflawni ei botensial. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned ehangach am eu cefnogaeth barhaus.”
Nododd arolygwyr gwricwlwm hynod ddiddorol yr ysgol, sydd wedi’i wreiddio yn yr ardal leol ac wedi’i gynllunio i roi perchnogaeth i ddisgyblion dros eu dysgu, gyda staff yn awyddus i “annog disgyblion i weld eu hunain fel dinasyddion gwerthfawr yn eu hardal leol, yng Nghymru a’r byd ehangach.”
Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod ymagwedd arloesol yr ysgol at addysg ddwyieithog a datblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar. Cafodd staff ganmoliaeth am hyrwyddo datblygiad y Gymraeg yn effeithiol drwy chwarae a chyfleoedd dysgu dyddiol, gan helpu disgyblion i “fynegi eu hunain yn y Gymraeg gyda hyder cynyddol.”
Un o’r cryfderau allweddol a nodwyd gan Estyn oedd y gwaith tîm a’r arweinyddiaeth effeithiol ledled yr ysgol. Mae’r adroddiad yn datgan: “Mae gan y pennaeth weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar ddisgwyliadau uchel gan bawb o fewn ethos gofalgar a chefnogol.”
Darllenwch adroddiad llawn Estyn yma https://www.estyn.llyw.cymru/darparwyr/narberth-c-p-school-cy/