English icon English
Ysgol Llanychllwydog-2

Ysgol Llanychllwydog yn Ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith

Llanychllwydog School Achieves Language Charter Gold Award

Mae Ysgol Llanychllwydog yn falch iawn o gyhoeddi mai nhw yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Sir Benfro i gael ei hanrhydeddu â Gwobr Aur y Siarter Iaith am ei hymrwymiad eithriadol i hybu a defnyddio’r Gymraeg.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn amlygu ymroddiad yr ysgol i warchod treftadaeth ddiwylliannol Cymru tra’n meithrin amgylchedd dysgu Cymraeg cynhwysol a chyfoethog i’w dysgwyr.

Dyfernir Gwobr Aur y Siarter Iaith i ysgolion sy’n dangos ymdrechion rhagorol i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws pob agwedd o fywyd yr ysgol ac yn y gymuned. Mae’r wobr hefyd yn cydnabod sut mae Ysgol Llanychllwydog wedi hybu Cymreictod drwy feithrin ymdeimlad dwfn o falchder diwylliannol, dathlu traddodiadau Cymreig, meithrin mwynhad o’r Gymraeg fel iaith fyw a chreu amgylchedd lle mae’r iaith yn ffynnu.

Mae Ysgol Llanychllwydog nid yn unig yn ymroddedig i feithrin y Gymraeg gyda’i dysgwyr ond hefyd o fewn y gymuned ehangach. Gan gydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae’r ysgol yn ymgysylltu’n weithredol ag unigolion a grwpiau sy’n dysgu’r iaith yn yr ardal.

Yn Ysgol Llanychllwydog mae’r ‘Criw Cymreictod’ yn creu cyfleoedd i ddysgwyr yr ardal ymuno â nhw yn yr ysgol ar ddiwrnodau dathlu i ymarfer ac ymgolli yn y Gymraeg mewn awyrgylch gynhaliol a chynhwysol. Trwy feithrin cysylltiadau a chydweithio gyda’r gymuned ehangach, mae’r ysgol yn weithredol ymrymuso unigolion i gofleidio’r iaith a chyfoethogi gwead diwylliannol yr ardal.

Llongyfarchodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg Cyngor Sir Penfro yr ysgol ar eu cyflawniad rhagorol gan ddweud “Pleser oedd gwobrwyo’r ysgol am eu hymroddiad diwyro i gynnal gwerthoedd diwylliannol yr ardal a meithrin cenhedlaeth o bobl sy’n hyfedr a’n ymwybodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol.”

Ychwanegodd: “Mae ymrwymiad Ysgol Llanychllwydog i ddatblygu’r Gymraeg o fewn y gymuned yn dyst i’w gweledigaeth o sicrhau bod yr iaith yn ffynnu ac yn berthnasol am genedlaethau i ddod.”

Mynegodd y penaeth Amanda Lawrence ei llawenydd wrth dderbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith, gan ddweud, “Mae’r gamp hon yn dyst i ymdrechion diflino ein staff ymroddedig, dysgwyr, rhieni, a’r gymuned ehangach. Yn Ysgol Llanychllwydog, credwn mai iaith yw’r allwedd i gadw a dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol. Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr am gofleidio’r Gymraeg ac ymgolli yn ei hanes cyfoethog.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg wrth longyfarch yr ysgol ar dderbyn y wobr: “Rwy'n falch iawn o glywed bod holl ymdrechion a gwaith caled y dysgwyr a'r staff yn Ysgol Llanychllwydog wedi eu cydnabod drwy dderbyn Gwobr Aur Siarter Iaith. Fel dysgwr Cymraeg fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw defnyddio’r Gymraeg a throchi eich hun yn yr iaith a sicrhau ei bod yn hwyl i ddysgwyr a phawb sy'n cymryd rhan. Diolch yn fawr pawb!”

Llun:

Ysgol Llanychllwydog yn derbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith gan Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Penfro a Elin Fry, Uwch Ymgynghorydd Gwella, ochr yn ochr â Seren a Sbarc, Archarwyr y Siarter Iaith.