Cogydd enwog yn cefnogi cegin ysgol
Celebrity chef champions school kitchen
Mae’r cogydd enwog Jamie Oliver wedi canmol gwaith tîm arlwyo Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod sy’n darparu prydau maethlon i bum ysgol yn yr ardal.
Mae’r prif gogydd, Lisa Roberts, a’i thîm arlwyo ymroddedig, yn coginio prydau blasus ac iach i blant Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod ac yn darparu prydau i Ysgol Teilo Sant, Canolfan Dysgu Penalun, Ysgol Maenorbŷr ac Ysgol Hafan y Môr – tua 500 o brydau’r dydd!
Cyrhaeddodd y tîm restr fer Gwobr Pencampwyr Timau Arlwyo a oedd yn rhan o Wobrau Bwyd Ysgol Da Jamie 2023, ar ôl i’w hymdrechion a’r ymroddiad gwirioneddol maen nhw’n ei ddangos tuag at y bwyd maen nhw’n ei ddarparu ac yn ei weini i ddisgyblion wneud argraff fawr ar y beirniaid.
Roedd tystysgrif a anfonwyd at y tîm yn cynnwys neges gan y cogydd poblogaidd yn eu llongyfarch.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae Lisa wedi bod gyda Chyngor Sir Penfro ers 21 mlynedd ac mae’n aelod teyrngar, ymroddedig o’r staff arlwyo.
“Mae hi a’i thîm yn gyn-enillwyr gwobr Tîm Arlwyo’r Flwyddyn Cymru ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gan Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol.
“Maen nhw bob amser yn barod i helpu unrhyw gegin ysgol arall ac maen nhw’n gwneud y gorau o’r cyfleusterau gwych sydd ganddyn nhw yn y gegin. Llongyfarchiadau ar y gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon o’r gwaith arbennig rydych chi’n ei wneud er budd ein plant!”
Ychwanegodd yr Aelod dros Dde Dinbych-y-pysgod, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall: “Rwy’n falch iawn bod gwaith caled a safonau uchel y tîm arlwyo yn Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod wedi cael eu cydnabod gan y wobr hon.
“Yn ogystal â gwasanaethu Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod, maen nhw hefyd yn darparu gwasanaeth i sawl ysgol arall yn y cyffiniau, felly mae plant ledled De Sir Benfro yn elwa ar y gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud.”