Dewch i ymuno â ni yn y noson gawl lwyddiannus olaf
Come and join us at last of successful soup nights
Ers mis Ionawr, mae dros 800 o ddognau o gawl wedi cael eu gweini am ddim yn Neuadd y Sir, a'r wythnos hon yw eich cyfle olaf i ddod draw.
Cychwynnwyd menter dros dro Cyngor Sir Penfro gan wirfoddolwyr ac mae wedi bod yn llwyddiant mawr dros y pedwar mis diwethaf, a dydd Iau, 27 Ebrill fydd y digwyddiad olaf.
Mae croeso i bawb ddod i'r hen ffreutur yn Neuadd y Sir, Hwlffordd i ddathlu'r fenter a mwynhau cawl maethlon a blasus am ddim.
Mae gwirfoddolwyr o dîm arlwyo'r Cyngor wedi cael eu cefnogi gan nawdd oddi wrth gyflenwyr a chronfeydd Costau Byw i gynhyrchu amrywiaeth o gawl, gan gynnwys opsiynau i lysieuwyr, yn ogystal â chŵn poeth a byrgyrs ar gyfer digwyddiadau arbennig i'r teulu yn ystod gwyliau'r ysgol.
Rhoddodd Sandra Gardner, Emma Williams, Sian Davies, Karl Richards-Downes a Leanne McSparron nid yn unig eu hamser i goginio'r cawl, roedden nhw hefyd wrth law bob wythnos i'w weini, ynghyd â staff a gwirfoddolwyr eraill y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: "Mae wedi bod yn wych croesawu cymaint o bobl – yn hen ac ifanc - i'r ffreutur. Mae wedi bod yn enghraifft wirioneddol o gymuned sy’n pontio'r cenedlaethau.
"Rydym ni wedi croesawu plant bach mewn pramiau, teuluoedd, cyplau ar ddêt, oedolion sengl, pobl ifanc a phobl yn eu hwythdegau, gan gynnwys aelodau o staff a'r cyhoedd."
Diolch hefyd i staff TG a chyfleusterau a gefnogodd gysylltedd a'r defnydd diogel o'r adeilad.