English icon English
Jane Harries gyda CHTh Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn a Phrif Swyddog Addysg Ieuenctid a Chymunedol, Steve Davis.

Comisiynydd yr Heddlu yn amlygu prosiect atal troseddau mewn ysgolion

School crime prevention project highlighted by Police Commissioner

Ymunodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys â Thîm Troseddau Ieuenctid Cyngor Sir Penfro mewn digwyddiad atal troseddu yn ddiweddar.

Roedd Tîm Troseddau Ieuenctid Sir Benfro yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd i gyflwyno sesiwn Crime Time ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 8, mewn cydweithrediad â Swyddogion Heddlu SchoolBeat.

Daeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, i’r digwyddiad fel rhan o ddiwrnod ymgysylltu â'r gymuned.

Dywedodd Prif Swyddog Addysg Ieuenctid a Chymunedol Cyngor Sir Penfro, Steve Davis, y gwerthfawrogwyd yn fawr ymweliad Mr Llywelyn i weld y prosiect atal Crime Time.

"Mae'r prosiect y daeth i’w weld yn cynnwys disgyblion o Ysgol Harri Tudur yn perfformio drama am drosedd a gyflawnwyd gan berson ifanc, ac yna nifer o weithdai i archwilio effaith a chanlyniadau troseddu.

"Cyflwynir y rhaglen gan Swyddogion Heddlu SchoolBeat, y Gwasanaeth Ieuenctid, y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Ynadon. Gwneir hyn bob blwyddyn, fel arfer, yn ein holl ysgolion uwchradd ac mae'n gonglfaen yn ein gwaith atal troseddu gyda phobl ifanc."

Wrth adlewyrchu ar ddigwyddiadau’r dydd, ailadroddodd Mr Llywelyn bwysigrwydd cydweithio cymunedol wrth fynd i'r afael â’r prif broblemau.

"Roedd fy niwrnod ymgysylltu â'r gymuned heddiw yn gyfle i wrando ar rai o'r pryderon a'r heriau a wynebir yn Sir Benfro. Mae ein partneriaeth â Thimau Troseddau Ieuenctid yn enghraifft o'n dull rhagweithiol o rymuso pobl ifanc ac atal troseddu, gan arfogi pobl ifanc â gwybodaeth a strategaethau i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd.

"Trwy gydweithio â phartneriaid lleol, gallwn adeiladu cymunedau mwy diogel a mwy cadarn."

Llun: Prifathrawes Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Jane Harries, gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, a Phrif Swyddog Addysg Ieuenctid a Chymunedol, Steve Davis.