English icon English
renewables-52

Cyn-weithiwr olew a nwy proffesiynol yn annog pobl ifanc i ymuno â'r chwyldro ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro

Former oil and gas professional urges young people to join the renewable energy revolution in Pembrokeshire

Mae cyn-weithiwr olew a nwy proffesiynol yn annog pobl ifanc i ystyried gyrfa mewn ynni adnewyddadwy, a manteisio ar dwf cyflym yn y sector wrth i Gymru anelu tuag at sero-net erbyn 2050.

Gweithiodd Naomi Bowen ym maes olew a nwy yn Sir Benfro am dros 14 mlynedd, ac yn ddiweddar trosglwyddodd i'r sector ynni adnewyddadwy i helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Nawr, mae hi eisiau annog pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol i ddewis y diwydiant hwn i ddechrau eu llwybr gyrfa.

Daw'r alwad yn rhan o ymdrech ehangach gan Gyngor Sir Penfro, ei ysgolion, Coleg Sir Benfro ac arweinwyr diwydiant. Mae nifer o brosiectau'n cael eu cyflwyno eleni i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried llwybrau gyrfa yn y sector, gan gynnwys lansio ffilm newydd sy'n arddangos cyfleoedd cyffrous mewn gyrfaoedd sero net yn Sir Benfro.

Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod pobl ifanc, Gen Z yn benodol, yn credu bod  effaith amgylcheddol y ffactor pwysig wrth chwilio am swyddi. Canfu arolwg diweddar gan KMPG[1] fod traean o weithwyr Gen Z yn dweud eu bod am gael swyddi sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd amgylcheddol, a'u bod hyd yn oed yn honni eu bod wedi gwrthod cynigion swyddi oherwydd ymrwymiadau gwyrdd gwael cwmni.

Mae Sir Benfro eisoes yn cyflenwi un rhan o bump o anghenion ynni'r DU, ond mae'r galw am ynni gwyrdd yn cynyddu gyda Chymru, a'r DU, yn gobeithio cyflawni sero-net erbyn 2050.

Mae bwlch sgiliau ynni gwyrdd sylweddol yn gysylltiedig â'r newid hwn, a dyna pam mae gweithwyr proffesiynol fel Naomi eisiau tynnu sylw pobl ifanc sy’n gadael yr ysgol at y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Cafodd Naomi ei geni a'i magu yn Aberdaugleddau, Sir Benfro. Wedi'i hysgogi gan y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, penderfynodd drosglwyddo ei sgiliau a'i gwybodaeth i'r sector ynni adnewyddadwy ar ôl dros ddegawd o weithio mewn tanwydd ffosil, ac mae bellach yn gweithio fel rheolwr prosiect cynorthwyol yn RWE yn gofalu am brosiectau ynni gwynt ar y tir.

Wrth siarad am y sector ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro, dywedodd Naomi: "Dydw i ddim yn credu bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r holl wahanol swyddi sydd ar gael yn y sector, a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer llawer ohonynt. Er bod diddordeb, nid ydynt yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael.

"Mae cymaint o amrywiaeth a dewis, yn enwedig i ferched ifanc sy'n dod o gefndiroedd STEM, o dechnoleg a pheirianneg i reoli a dylunio prosiectau. Mae amrywiaeth o fewn y diwydiant ynni adnewyddadwy yn gwella bob blwyddyn hefyd, gyda mwy a mwy o gydraddoldeb, dydy e erioed wedi teimlo'n fwy cynhwysol.

"Mae cymaint o gyfleoedd gyrfa yma. Byddwn yn annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr i ystyried y diwydiant ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro o ddifrif."

Mae gweithiwr proffesiynol arall yn y diwydiant a fagwyd yn Sir Benfro, Jack O'Shea, yn credu bod rhagolygon gwych yn y dyfodol i bobl ifanc sy'n ymuno â'r sector ynni adnewyddadwy o'r sir. Gan fyfyrio ar ei daith i sicrhau ei rôl fel cynorthwyydd amgylchedd a chynaliadwyedd ym Mhorthladd Aberdaugleddau, dywedodd Jack:

"Wrth dyfu i fyny, doedd dim sicrwydd y byddwn i'n gallu creu gyrfa lwyddiannus yn fy sir enedigol, ond mae'n teimlo fel bod hynny’n newid. Ni fu erioed amser gwell i bobl ifanc fynd i'r maes cynaliadwyedd na nawr. Gyda llawer o brosiectau newydd yn cael eu cynllunio ac ar y gweill, rwy'n gobeithio y bydd cyfleoedd yn parhau i ffynnu i'r rhai sy'n ymuno â'r sector yn Sir Benfro, a ledled Cymru."

Dywedodd Steven Richards-Downes, cyfarwyddwr addysg Sir Benfro: "Mae chwyldro ynni adnewyddadwy yn cychwyn yn y sir. Mae gennym gyfle enfawr i ddod yn arloeswyr ynni adnewyddadwy ac arloeswyr mewn technoleg, gan weithio ochr yn ochr â'r diwydiannau presennol. Mae miloedd o yrfaoedd newydd ar y gweill - o gemegwyr, gwyddonwyr a pheirianwyr i blymwyr, peilotiaid, rheolwyr prosiectau a phopeth rhyngddyn nhw. Ni fu erioed amser gwell i ystyried gyrfa ym maes ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro."

Am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro yn awr ac yn y dyfodol, ewch i https://www.pembrokeshirecoastalforum.org.uk/gyrfaoedd-ynni-yn-y-dyfodol/.