English icon English
wheelchair - disabled parking scheme

Cyngor Sir Penfro yn Lansio Panel Mynediad Gofyn

Gofyn Access Panel launched by Pembrokeshire County Council

Mae Tîm Mynediad Cyngor Sir Penfro yn lansio Gofyn – ffordd i bobl ag amhariadau / anableddau / anghenion ychwanegol leisio eu barn lle mae’n cyfrif.

Bydd Gofyn hefyd yn darparu ffordd i sefydliadau ofyn am farn pobl a all ddefnyddio neu gael mynediad at eu cynnyrch, datblygiad neu wasanaeth, ar sut i wneud i hyn weithio iddyn nhw.

A oes gennych chi gwestiynau? Gwych – dyma yn llythrennol yw Gofyn! Mae Gofyn yn ymwneud â holi, felly mae hyn i gyd yn ymwneud â chwestiynau.

Drwy’r cwestiynau hyn cawn ddysgu beth mae pobl eisiau, a sut y gallwn wneud i bethau weithio orau i bawb. Bydd Gofyn yn helpu i sicrhau bod pobl ag anableddau, amhariadau, anghenion iechyd neu anghenion eraill yn gallu dweud eu dweud, boed yn ymwneud â chynllun ffordd newydd neu glwb cinio newydd.

Sut bydd yn gweithio? Gwahoddir pobl ledled Sir Benfro i gofrestru fel aelod o Gofyn a dweud wrthym beth sydd o ddiddordeb iddynt.

Pan fyddwn yn dod yn ymwybodol o unrhyw ymgynghoriadau, neu fod sefydliad yn dod atom ac yn gofyn am farn, syniadau neu sylwadau aelodau Gofyn, byddwn yn estyn allan at unrhyw aelodau sydd â diddordeb ac yn gofyn iddynt roi adborth.

Mae hyn yn golygu y dylai pethau weithio’n well i bobl sydd eisiau neu angen eu defnyddio o’r dechrau, ac na fydd angen eu hailgynllunio i fod yn hygyrch yn nes ymlaen (gan wneud pethau’n gyflymach, yn rhatach ac yn barod i bawb o’r dechrau).

Darganfyddwch fwy ar wefan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, “Bydd hyn yn ffordd dda o helpu pobl i gymryd rhan weithredol mewn ymgynghoriadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

“Byddwn yn gweld deilliannau sydd wedi’u dylunio’n well, eu defnyddio’n well ac yn iawn y tro cyntaf, ac mae hynny’n rhywbeth cadarnhaol i bawb. Rwy’n annog pobl i gofrestru fel y gallant ddweud eu dweud.”

Cysylltwch â ni gyda’ch cwestiynau drwy ffonio, neu drwy anfon neges e-bost, neges destun neu lythyr atom… gallwn hyd yn oed gwrdd â chi yn rhywle i siarad am Gofyn os mai dyna beth hoffech i ni ei wneud. Os hoffech gyfathrebu gan ddefnyddio fformat arall, rhowch wybod i ni.

Sut ydw i’n cysylltu?

Mae Emma Lewis, un o Swyddogion Mynediad Cyngor Sir Penfro yn datblygu ac yn rheoli Gofyn, ac mae’r Tîm Mynediad yno rhag ofn na fydd Emma ar gael am gyfnod.

Mae Gofyn yn rhoi tawelwch meddwl cynllun Cyngor Sir Penfro – bydd yr holl ddata yn cael eu storio’n ddiogel ar weinyddion Cyngor Sir Penfro, o dan reolau Diogelu Data Cyngor Sir Penfro.

Cysylltwch ag Emma Lewis dros y ffôn ar 01437 775 395; anfonwch neges e-bost i accessofficer@pembrokeshire.gov.uk neu anfonwch lythyr drwy’r post i Gofyn, Swyddfa Mynediad, 3D, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP