Cynllunio dyfodol gwyrddach yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Planning for a greener future at Pembroke Dock Community School
Mae dysgwyr yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn cael eu hysbrydoli i feddwl am ddyfodol ym maes ynni adnewyddadwy wrth iddynt ddarganfod mwy am sut mae'r sector ynni'n newid yn Sir Benfro.
Canolbwyntiodd yr ysgol gyfan ar y pwnc gan ddarganfod mwy am dyrbinau gwynt, ardaloedd profi ynni, brwydro yn erbyn newid hinsawdd, pŵer solar, a mwy, mewn nifer o weithdai diddorol ac ymarferol.
Daeth Fforwm Arfordir Sir Benfro a Chanolfan Darwin â'r pwnc yn fyw a mwynhaodd y dysgwyr gymryd rhan wrth ymchwilio a phrofi eu gwaith.
Gwnaeth rhai grwpiau ddylunio ac adeiladu modelau o lwyfannau arnofio ar gyfer tyrbinau gwynt alltraeth yn ogystal â modelau o dyrbinau, dysgodd plant am sut mae ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio mewn bywyd modern, yn ogystal ag ynni storio, tra bod eraill wedi mynd ar ymweliad â Dragon LNG yn Waterston i weld fferm bŵer solar.
Cafodd gwyddoniaeth, mathemateg, datrys problemau a sgiliau meddwl allweddol i gyd eu hymgorffori yn y prosiectau.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Michele Thomas: "Mae gwaith yr ysgol y tymor hwn wedi'i ysbrydoli gan y cyfleoedd cyffrous mewn gyrfaoedd sero net yn Sir Benfro, gan fod gan Gymru y nod o fod yn sero-net erbyn 2050.
“Rydym am i'n dysgwyr fod yn wybodus am ynni adnewyddadwy ar sawl lefel, a phrofi sut brofiad fyddai bod yn wyddonydd neu'n beiriannydd yn y maes. Rydym hefyd wedi gwneud ymdrech i rymuso ein dysgwyr i gymryd camau cymdeithasol ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw a'u bywydau, yn ogystal ag ar benderfyniadau lleol sy'n effeithio ar y boblogaeth fyd-eang.
“Mae'r staff wedi bod yn hynod greadigol wrth ddylunio'r cwricwlwm, sydd yn ei dro wedi denu sylw ac ysbrydoli pob un o ddysgwyr yr ysgol."