English icon English
Mini Olympics 4 - Gemau Olympaidd bach 4

Anelu am Aur! Gemau Olympaidd Bach i ddisgyblion Prendergast

Going for gold! Mini Olympics fun for Prendergast pupils

Gyda'r Gemau Olympaidd ym Mharis yn dechrau ymhen wythnosau, mae pobl ifanc o Ysgol Gymunedol Prendergast wedi mwynhau eu fersiwn eu hunain o wledd chwaraeon yr haf.

Gwnaeth Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Hwlffordd roi cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 3 o Prendergast gystadlu ddydd Iau, 20 Mehefin.

Mewn heulwen gogoneddus, goruchwyliwyd y sesiynau, a gynlluniwyd ac a gynhaliwyd gan y Llysgenhadon Ifanc, gan Lysgennad Ifanc Aur Chwaraeon Sir Benfro, Carys Ribbon.

Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn athletau, saethyddiaeth, pêl-fasged, criced, pêl-droed a thenis mewn bore llawn cyffro a hwyl.

Mini Olympics 3 - Gemau Olympaidd bach 3
Mini Olympics 2 - Gemau Olympaidd bach 2
 

Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: "Roedd yn wych gweld y Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn cynllunio ac yn cyflawni amrywiaeth mor eang o weithgareddau, a gweld disgyblion Prendergast yn cymryd rhan ac yn mwynhau eu hunain. Roedd yn fore pleserus a chynhyrchiol iawn."

Dywedodd Sarah Worgan, Athro yn Ysgol Gymunedol Prendergast: "Diolch yn fawr iawn i Lysgenhadon Ifanc Ysgol Uwchradd Hwlffordd am y sesiynau chwaraeon gwych.

"Roedd popeth wedi’i drefnu’n dda iawn, ac fe wnaeth y plant fwynhau'n fawr! Gwnaeth y Llysgenhadon Ifanc argraff wych ar yr holl staff gyda'u brwdfrydedd a'u proffesiynoldeb gwych."

Mini Olympics 5 - Gemau Olympaidd bach 5