English icon English
Disgyblion, athrawon a swyddogion y Cyngor yn y Gampfa Awyr Agored newydd yn Ysgol Greenhill

Cwblhau Gwelliannau Allanol Greenhill â champfa awyr agored

Greenhill Outdoor Improvement topped off with open air gym

Wedi blwyddyn o waith ar wella’r amgylchedd awyr agored ar gyfer cymuned Dinbych-y-pysgod a dysgwyr yn Ysgol Greenhill, daeth y gwaith i ben wrth lansio campfa awyr agored newydd.

Cydlynwyd cynllun Gwelliannau Allanol Greenhill gan bwyllgor o Lywodraethwyr yr Ysgol, ac roedd y gwaith yn cynnwys plannu 6,000 o fylbiau gwanwyn a chreu man tyfu llysiau â nifer o welyau uchel, coed ffrwythau, blychau cynefinoedd, mannau blodau gwyllt, a thŷ gwydr y tu allan i’r Ganolfan Adnoddau Dysgu.

Galluogwyd y prosiect gan gyllid grant Gwella Sir Benfro, ac fe’i harweiniwyd gan Gyfeillion Greenhill, gyda chefnogaeth Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cyfleusterau awyr agored.

Mae’r gampfa awyr agored am ddim i’w defnyddio, mae’n gynhwysol i bob oedran a gallu, ac mae wedi’i lleoli â golygfa dros Ynys Bŷr. Mae’n hygyrch trwy gydol y diwrnod ysgol i ddisgyblion, ac i’r gymuned leol yn ystod nosweithiau a gwyliau ysgol.

Mae’n cynnwys amrywiaeth o offer amlbwrpas sy’n darparu ystod o fanteision corfforol a manteision iechyd, o fagu cryfder yn yr holl brif grwpiau cyhyrau a datblygu ffitrwydd cardiofasgwlaidd, i wella hyblygrwydd, cydbwysedd a chydsymud. Yn bwysicaf oll, mae’n llawer o hwyl, ac mae disgyblion yr ysgol yn gwneud y gorau ohoni ar bob cyfle.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson: “Mae’n enghraifft ddisglair o’r ffordd y gall y Cyngor a Chymunedau gydweithio i ddarparu cynllun a fydd nid yn unig yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion ysgol, ond y gymuned yn gyffredinol. Mae Gwella Sir Benfro yn gronfa ragorol ac mae hwn yn gynllun rhagorol sydd â chanlyniad rhagorol i Ddinbych-y-pysgod.”

Dywedodd y Pennaeth, David Haynes: “Hoffwn ddiolch i Gyfeillion Greenhill am ddarparu ein campfa awyr agored wych i ddisgyblion Ysgol Greenhill ac i’r gymuned ehangach. Rydym yn ddiolchgar dros ben i bawb a fu’n ymwneud â hyn, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro drwy’r Grant Gwella Sir Benfro, a Chyngor Tref Dinbych-y-pysgod.

“Mae’r gampfa’n boblogaidd iawn â disgyblion o bob oedran, cyn dechrau’r diwrnod ysgol, yn ystod y diwrnod, ac ar ôl yr ysgol, ac mae eisoes wedi cael effaith sylweddol ar eu hiechyd a’u lles. Edrychwn ymlaen yn fawr at wella safle’r ysgol ymhellach er mwyn sicrhau bod gan ein hysgol a’n cymuned y cyfleusterau gorau sydd ar gael i bawb eu mwynhau.”

Ychwanegodd Maer Dinbych-y-pysgod, y Cynghorydd Dai Morgan: “Fel Cyngor, credwn fod cael perthynas waith dda â Greenhill yn hanfodol. Bydd hyn o les mawr i’r disgyblion. Roedd yn fraint cael bod yn un o’r sefydliadau sydd wedi dod â’r gampfa i Greenhill. Mae’n beth mor gadarnhaol, nid yn unig i’r disgyblion ond hefyd i’r gymuned leol.”

 

Amserau agor y Gampfa Awyr Agored (gall hyn newid)

Mae tir yr ysgol yn agored i’r cyhoedd cyn dechrau’r diwrnod ysgol ac ar ôl yr ysgol.

Yn ystod tymhorau’r ysgol – o ddydd Llun i ddydd Gwener, 7am tan 7pm, a 9am tan 1pm ddydd Sadwrn.

Yn ystod gwyliau’r ysgol – 8am tan 4pm.

Ar gau ddydd Sul ac ar Wyliau Banc.