English icon English
golygfa ar draws Traeth Poppit ar ddiwrnod heulog

Dweud eich dweud ar fynediad trafnidiaeth i Draeth Poppit

Have your say on transport access into Poppit Sands beach

Mae Cyngor Sir Penfro (CSP) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) yn ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch y ddarpariaeth trafnidiaeth bresennol i Draeth Poppit.

Bydd yr holiadur yn llywio astudiaeth Cam 1 WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) sy’n cael ei chynnal gan WSP UK ar ran CSP ac APCAP, gyda’r nod o wella mynediad trafnidiaeth gynaliadwy i Draeth Poppit (yn amodol ar gyllid a’r astudiaeth yn symud ymlaen i Gamau WelTAG pellach).

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn helpu i hysbysu beth yw’r materion allweddol o fewn ardal yr astudiaeth ac yn bwydo i mewn i’r gwaith o ddatblygu rhestr hir o opsiynau ar gyfer gwelliannau.

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein yn.
  • Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd ac yr hoffech ymateb, ffoniwch Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid APCAP ar 01646 624800 a gellir anfon copi caled o ffurflen ymateb atoch.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 18 Awst 2023.