English icon English
Plant a staff wrth fyrddau cinio ysgol newydd

Cyflwyno amser cinio ar ei newydd wedd yn Ysgol Neyland

New-style lunchtimes introduced at Neyland School

Mae amser cinio ysgol wedi dod yn dawelach ac yn fwy pleserus meddai Pennaeth Ysgol Gymunedol Neyland, diolch i fenter newydd.

Mae byrddau crwn wedi’u gosod yn lle byrddau hir traddodiadol i annog cyfathrebu a pherthnasoedd, tra bod platiau a bowlenni wedi cymryd lle’r hambyrddau plastig. Mae plant yn gosod y byrddau gyda'u cyllyll a ffyrc ac yn gweini llysiau a seigiau ar yr ochr i’w hunain o bowlenni gweini yng nghanol y bwrdd.

Dywedodd y Pennaeth Clare Hewitt mai'r nod oedd creu amser cinio cymdeithasol, hamddenol a phleserus ar gyfer cymuned gyfan yr ysgol.

"Mae aelodau’r staff yn ymuno â'r disgyblion am ginio i gefnogi datblygu sgiliau ac i fod yn esiampl, ac rydyn ni eisoes wedi sylwi bod y neuadd yn dawelach ac yn fwy llonydd, mae'r plant yn bwyta mwy ac felly mae llai o wastraff," meddai.

"Mae'r plant hefyd yn mwynhau bod yn gyfrifol am weini eu bwyd eu hunain ac maen nhw wrth eu bodd â’r byrddau newydd fel eu bod nhw’n gallu sgwrsio gyda'u ffrindiau a'u hathrawon dros ginio."

Dywedodd Mrs Hewitt bod y fenter wedi ei datblygu gyda chefnogaeth yr Awdurdod Lleol, codi arian gan yr ysgol a rhodd gan Valero.

Ychwanegodd: "Mae iechyd a llesiant yn faes allweddol yn y cwricwlwm i Gymru ac mae ganddo bwysigrwydd cyfartal, felly roedden ni’n awyddus i ddatblygu maes hwn y diwrnod ysgol yn unol â hyn.

Mae ein hamser cinio newydd yn cefnogi hyn yn ogystal â datblygu sgiliau  bod yn annibynnol a dealltwriaeth disgyblion o wneud dewisiadau iach.

"Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r tîm arlwyo, Valero a'n pwyllgor codi arian am groesawu ein prosiect newydd a'n cefnogi ni i'w gyflwyno i'n plant."

Ym mis Medi, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i'r grwpiau blwyddyn iau a bydd disgyblion Blwyddyn 6 yr ysgol yn cefnogi hyn ac yn dod yn esiampl  iddyn nhw.