English icon English
Fenton school pupils learn about renewable energy

Plant ysgol yn dysgu am ddyfodol ynni adnewyddadwy Sir Benfro

School children focus on Pembrokeshire’s renewable energy future

Croesawodd Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton arbenigwyr ynni adnewyddadwy i helpu dysgwyr Blwyddyn 5 a 6 i ehangu eu gwybodaeth fel rhan o'u Prosiect Ynni Morol.

Yn ystod tymor yr haf mae Blue Gem Wind, Fforwm Arfordir Sir Benfro a’r Darwin Experience wedi trafod pwysigrwydd Sir Benfro yn y sector ynni adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel gyda phlant yr ysgol.

Gwnaeth y dysgwyr ddylunio ac adeiladu modelau o wahanol strwythurau angori ar gyfer tyrbinau alltraeth, a dysgu gan Ganolfan Darwin am y gwahanol organebau morol a allai eu cytrefu.

Fe wnaethant gyflwyno eu syniadau dylunio, gyda chyfuniad o ddyluniadau dosbarth yn cael eu hadeiladu a'u defnyddio yn Ardal Profi Ynni’r Môr (META) yn Aberdaugleddau gan Fforwm Arfordir Sir Benfro.

Mae'r ymweliadau wedi ysbrydoli llawer o syniadau a phosibiliadau newydd i’r dysgwyr ynghylch y dyfodol.

Esboniodd Summer Marshall (Blwyddyn 6): "Roedd yn gyfle gwych i'n dyluniadau gael eu gwneud yn rhywbeth ar gyfer bywyd go iawn."

School renewables 2

"Oni bai am y prosiect hwn, fyddwn i ddim wedi dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd morol a’u cysylltiad â'n dyfodol," ychwanegodd TJ Hill (Blwyddyn 6).

"Mae'n bwysig iawn oherwydd bydd llawer o swyddi yn y dyfodol yn y maes ynni a thechnoleg adnewyddadwy," meddai Milly Badger (Blwyddyn 6).

"Wedi ymweld â Blue Gem Wind, META a Darwin, mae wedi gwneud i mi feddwl am swydd ym maes ynni adnewyddadwy," ychwanegodd Oscar Davies (Blwyddyn 6).

Dywedodd y Pennaeth Gweithredol Dros Dro, Gareth Thomas: "Mae'r prosiect wedi ein galluogi i ddatblygu profiadau gyrfaoedd a phrofiadau sy’n ymwneud â gwaith gyda'n dysgwyr. Mae cael cyswllt uniongyrchol â'r diwydiant wedi bod yn hanfodol i ysgogi ein dysgwyr i feddwl am y swyddi yn Sir Benfro yn y dyfodol a'r bywyd y gallant ei byw yma."

School renewables 3

Cytunodd athrawon Blwyddyn 5 a 6, Leah Hackett, Matthew Vaughan a Mike Lowde, y gallai llawer o'u disgyblion weithio yn y diwydiant adnewyddadwy yn y dyfodol.

"Gobeithio, ar ôl hyn, y bydd gennym grŵp o ddisgyblion brwdfrydig sydd eisoes â dealltwriaeth frwd o fanteision ynni adnewyddadwy a'i bwysigrwydd yn Sir Benfro a'r byd ehangach," ychwanegodd.