English icon English
Gemma Evans Ysgol Greenhill

Balchder ar ôl i athro o Ysgol Greenhill ennill un o brif wobrau cynhwysiant y DU

Pride at top UK inclusion award for Ysgol Greenhill teacher

Mae Athro o Ysgol Greenhill wedi ennill gwobr fawreddog am gynhwysiant ar ôl cael ei henwebu gan ei myfyrwyr.

Derbyniodd yr Athro Iechyd a Lles, Gemma Evans, Wobr Athro LHDT+ Cynhwysol y Flwyddyn ddydd Iau, 13 Gorffennaf mewn seremoni ddisglair a gynhaliwyd gan Just Like Us, Elusen Pobl Ifanc LHDT+. 

Aeth Mrs Evans i'r seremoni yn Llundain ochr yn ochr ag enwebeion o ysgolion ledled y DU, ac roedd Mrs Kay Davis yno gyda hi, sydd wedi bod yn allweddol yn arwain newid o amgylch amrywiaeth.

Mae Mrs Evans a Mrs Davis yn trefnu Tîm Gweithredu Cymdeithasol yr ysgol sy'n gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod pob math o amrywiaeth nid yn unig yn cael ei gefnogi ond hefyd yn cael ei ddathlu yng nghymuned Ysgol Greenhill.

Yn ei haraith dderbyn, dywedodd Mrs Evans: "Rydym mewn sefyllfa hynod lwcus yn byw yng Nghymru gan ein bod yn cyflwyno cwricwlwm newydd sydd ag amrywiaeth yn llifo trwy bob maes pwnc i sicrhau bod ein dysgwyr yn dod yn ddinasyddion sy'n wybodus yn foesegol.

Gemma Evans Kay Davis Ysgol Greenhill

"Mae Kay a minnau'n falch iawn o ddweud bod ein hysgol yn un o'r cyfranogwyr mwyaf gweithgar wrth ddathlu amrywiaeth mewn ysgol lle gall myfyrwyr fod yn nhw eu hunain heb farnu."

Roedd yn anrhydedd i Mrs Evans dderbyn y wobr a rhoddod deyrnged i Dîm Gweithredu Cymdeithasol Ysgol Greenhill am eu dewrder a'u hymroddiad i sicrhau newid cadarnhaol.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Greenhill, David Haynes: "Rwy'n falch iawn o gyflawniad gwych Mrs Evans.

"Rwy'n falch iawn bod y disgyblion wedi ei henwebu ar gyfer y wobr genedlaethol hon, sy'n gydnabyddiaeth am y gwaith rhagorol mae hi wedi'i wneud ochr yn ochr â Kay Davis.

"Maen nhw'n hyrwyddo’n barhaus werthoedd ein hysgol, sef caredigrwydd, parch a chyfiawnder, i bawb sy'n gysylltiedig â'n cymuned yn Greenhill."