English icon English
Ysgol Mair Ddihalog cyfarfod cyngor myfyrwyr

Ysgol gynradd yn croesawu adroddiad canmoliaethus gan Estyn

Primary school welcomes glowing Estyn report

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog Hwlffordd wedi croesawu adroddiad gan Estyn yn canmol gwaith yr ysgol.

Dechreuodd y pennaeth, Sarah Mansfield, yn ei swydd ym mis Tachwedd 2021, a chanfu arolygwyr fod yr ysgol yn cael ei harwain yn dda gan bennaeth dynamig ac ymroddgar.

Mae adroddiad Estyn yn nodi “ei bod wedi gweithio gyda rhieni, staff a disgyblion i greu gweledigaeth sy’n benodol ac yn briodol i anghenion yr ysgol” ac yn gweithio’n ddiflino gyda’r staff i wella deilliannau a lles disgyblion.”

Canfu arolygwyr fod yna ethos eithriadol o ofalgar ac anogol yn Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog, sy’n cael ei ategu gan werthoedd a rhinweddau cryf, ynghyd â ffocws amlwg ar gyfle cyfartal i bawb.

Mae’r adroddiad yn amlygu bod ystod eang o weithgareddau difyr a diddorol yn cael eu cynllunio gan athrawon ar draws y cwricwlwm, gyda chyflymdra da i ddysgu, datblygu dealltwriaeth a hyrwyddo medrau meddwl yn gyffredinol.

Roedd argymhellion a wnaed gan Estyn yn ymwneud â sicrhau bod dysgu yn yr awyr agored yn datblygu medrau’n effeithiol ac yn darparu lefel addas o her i’r holl ddisgyblion, a sicrhau bod adborth gan athrawon yn targedu’r camau nesaf yn nysgu’r disgyblion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae hwn yn adroddiad gwych gan Estyn, a dylai staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog fod yn eithriadol o falch o’u gwaith caled.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog, Sarah Mansfield: “Mae’n bleser gweld gwaith caled pawb yn cael ei gydnabod. Rwy’n falch iawn o bawb yng nghymuned ein hysgol, a hoffwn ddiolch i’n disgyblion a’n staff ardderchog am fod yn awyddus i sicrhau’r gorau i Ysgol Mair Ddihalog.”

Hefyd, amlygwyd rôl flaenllaw plant yn yr ysgol mewn gwella agweddau ar fywyd ysgol i’r holl ddisgyblion, er enghraifft yn eu rolau fel aelodau o’r Senedd a’i his-bwyllgorau.

Dywedodd dau o Dîm Arweinyddiaeth Disgyblion yr ysgol, Kayla Kplomedo a Leah Thomas: “Rydyn ni’n falch iawn o weld gwaith ein Senedd yn cael ei amlygu yn yr adroddiad gan ei fod yn rhan mor enfawr o’n hysgol. Ni yw’r llais. 

“Er y byddwn ni’n mynd â’n lleisiau i’r ysgol uwchradd, rydyn ni’n hyderus y bydd y tîm arweinyddiaeth disgyblion newydd yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael eu clywed a’u cymryd o ddifri. Rydyn ni’n gwybod hyn gan y byddwn ni’n hyfforddi’r Prif Weinidogion a’r Llysgenhadon Ffydd nesaf cyn i ni adael.

“Maen nhw wedi edmygu cymaint ohonyn nhw o’u blaen ac yn deall pwysigrwydd eu rolau, yn cynnwys eu cyfrifoldeb i gefnogi gwelliant parhaus ein hysgol. 

“Mae’r dyfodol yn ddisglair i’r disgyblion yn Ysgol Mair Ddihalog.”