English icon English
Rhai o dîm arlwyo CSP yng ngwobrau LACA

Gwasanaeth arlwyo ysgolion yn dathlu llwyddiant gwobr driphlyg

School catering service celebrates triple award success

Roedd yna le i ddathlu'n ddiweddar wrth i'r gwasanaeth arlwyo gweithgar yng Nghyngor Sir Penfro ennill nifer o brif wobrau yng ngwobrau diwydiant Cymru gyfan.

Amlygwyd gwaith gwych y timau gyda chwe lle ar restr fer Gwobrau Cydnabyddiaeth Rhagoriaeth flynyddol Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol (LACA).

Yn y rowndiau terfynol ddiwedd mis Hydref roedd pleser wrth i dair gwobr gael eu dwyn adref.

Derbyniodd y Goruchwylwyr Ardal Emma Williams a Sian Davies Wobr Shining Star am eu hymroddiad, proffesiynoldeb a brwdfrydedd dros y gwasanaeth arlwyo ac enillodd Ysgol VC Dinbych-y-pysgod Dîm Arlwyo Ysgol y Flwyddyn.

Roedd Sian ac Emma mewn gystadleuaeth gref gyda naw enwebai cryf arall yn y categori hwn.

Ar ben hynny, cydnabuwyd y tîm arlwyo cyfan gyda Gwobr Bwyd mewn Ysgolion gyntaf Llywodraeth Cymru.

Roedd Cyngor Sir Penfro hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arloesedd, Gwobr Effaith Gymunedol, a chynhwyswyd tîm Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn y rhestr genedlaethol.

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham bawb a gymerodd ran yn y cyflawniad gwych hwn.

"Ledled Sir Benfro mae miloedd o brydau bwyd yn cael eu darparu i'n plant bob diwrnod ysgol, dylai'r tîm fod yn falch iawn o'r hyn maen nhw'n ei wneud ac mae'r gwobrau hyn yn cydnabod hynny."

Nodiadau i olygyddion