English icon English
Karen Davies gyda phobl sy'n ymwneud â Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro a chynghorwyr

Sgiliau’n cael eu harddangos mewn diwrnod agored Cyflogaeth gyda Chymorth

Skills on show at Supported Employment open day

Y tu ôl i ddrysau adeilad di-nod yn Hwlffordd, mae’n ferw o brysurdeb wrth i’n rhai sy’n gysylltiedig â Hwb Cyflogaeth gyda Chymorth Sir Benfro fynd wrth eu gwaith.

Roedd diwrnod agored ar y safle ar Snowdrop Lane yr wythnos ddiwethaf yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn edrych yn fanylach ar waith Rhaglen Cyflogaeth gyda Chymorth Sir Benfro a’i rôl allweddol o ran cynorthwyo pobl ag anableddau i ddod o hyd i waith.

Mae’r Rhaglen Cyflogaeth gyda Chymorth yn cynnig cyflogaeth gyda chymorth mewn ystod o alwedigaethau, gan gynnwys gwneud dodrefn, cynnal a chadw tir, crefftau, arlwyo, manwerthu, gweinyddu TG, adeiladu ac iechyd a diogelwch.

Cynhaliwyd y diwrnod agored ar y safle mawr yn Hwlffordd lle mae ystod eang o waith cynhyrchu a hyfforddiant yn cael eu cyflawni.

Mae staff y rhaglen hefyd yn cynnal sawl cyfleuster ym Maenor Scolton, gan gynnwys caffis a siop, a bydd y cynllun yn cael hwb gan ganolfan newydd ar gyfer de’r sir yng Nghei’r De, Penfro.

Mae prosiect newydd ‘We Can’ i bobl sydd ag anableddau difrifol a lluosog a’r Fenter Cyflogaeth gyda Chymorth leol i bobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sydd eisiau gwaith â thâl hefyd yn cael eu rhedeg o’r Hwb Cyflogaeth gyda Chymorth, ynghyd ag ystod o gyfleoedd dydd a chymorth cyflogadwyedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Tessa Hodgson: “Mae Hwb Cyflogaeth gyda Chymorth Sir Benfro yn cynnig gwasanaeth rhagorol i’r bobl hynny sydd eisiau gweithio ond sy’n wynebu amrywiaeth o rwystrau. Mae Cyflogaeth gyda Chymorth nid yn unig yn darparu’r sgiliau ond hefyd yn gwella lles y rhai sy’n cymryd rhan gan eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i wneud eu marc ar gymdeithas.”

Dywedodd Karen Davies, Rheolwr y Rhaglen Cyflogaeth gyda Chymorth: “Cawsom dros 80 o ymwelwyr, gan gynnwys darpar gyfranogwyr i’r rhaglen a’u gofalwyr a phobl yn cynrychioli ystod o sefydliadau, yn ogystal â chynghorwyr sir a thref. Mae’r rhaglen yn cynnig dewis amgen gwirioneddol fodern i wasanaethau dydd traddodiadol. Cafodd yr ystod o wasanaethau mae’r Hwb yn eu cynnig argraff fawr ar bawb y siaradais â nhw, yn enwedig sgiliau’r staff sy’n cael eu cyflogi drwy’r rhaglen.”

Roedd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tom Tudor yn bresennol yn y diwrnod agored a dywedodd ei fod “yn wych gweld y gwaith rhyfeddol mae’r cyflogeion a’r gwirfoddolwyr yn ei gynhyrchu.

“Mae’r rhaglen yn cyflogi dros 75 o bobl ag anableddau ac mae pobl yn gweithio rhwng pedair a 37 awr yr wythnos. Mae’n sefydliad rhyfeddol a hoffwn ddiolch i’r staff a phawb sy’n cymryd rhan am eu hymdrechion rhyfeddol.”