English icon English
Tu fas Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd

Tair gwobr fawreddog ar gyfer prosiect adeiladu ysgol gwerth miliynau o bunnoedd

Three prestigious awards for multi-million pound school construction project

Mae prosiect adeilad Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, sy’n werth £48.7m, wedi ennill tair gwobr genedlaethol mewn un wythnos.

Yn ogystal â chipio dwy wobr yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru 2023, enillodd wobr Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2023 hefyd.

Mae’r ysgol, a agorodd ym mis Medi 2022, yn darparu amgylchedd dysgu rhagorol ar gyfer 1,750 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed, ynghyd â chyfleusterau chwaraeon ac awyr agored o’r radd flaenaf sydd o fudd nid yn unig i ddysgwyr, ond i’r gymuned gyfan.

Dywedodd Jane Harries, Pennaeth Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd: “Bu’n fraint ac yn bleser o’r mwyaf cydweithio â’r tîm o Gyngor Sir Penfro, Morgan Sindall a’u partneriaid, gan gynnwys Atkins a llawer o gontractwyr lleol, ar y prosiect.

“Ein hysgol ryfeddol yw canlyniad pedair blynedd o waith caled a gwaith tîm, sydd wedi arwain at roi i ddisgyblion Hwlffordd a’n hardaloedd cyfagos yr amgylchedd dysgu maent yn ei haeddu.

“Mae’r Gwobrau’n gydnabyddiaeth o’r cydweithio a’r sylw manwl a roddwyd gan bawb i adeilad yr ysgol, gan roi ystyriaeth lawn i anghenion y disgyblion a’r staff.

Roedd y Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru fel a ganlyn:

Gwobr Iechyd, Diogelwch a Lles:
Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd:
Morgan Sindall Construction, Cyngor Sir Penfro, Aecom, Atkins, Dudley’s Aluminium

Gwobr Integreiddio a Chydweithio:
Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd a’r Cyfleusterau Chwaraeon:
Morgan Sindall Construction, Cyngor Sir Penfro, Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd, Atkins, Whitehead Building Services, Gwasanaethau Hamdden Sir Benfro

Nawr, bydd prosiect Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn cael ei roi ar restr fer y Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd cenedlaethol ym mis Tachwedd.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Paul Williams, fod y tîm wrth eu bodd. “Mae mynd ymlaen wedyn i ennill Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru yn dangos cymaint o ysgol ryfeddol a ddarparwyd i ddisgyblion Hwlffordd. Mae’n gyflawniad gwych i bawb dan sylw.”

Dywedodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal yn Morgan Sindall Construction: "Mae'n anrhydedd bod ein gwaith ni ar brosiect Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd wedi ei gydnabod gan y tair gwobr o fri hyn.

Mae ennill gwobrau am Iechyd, Diogelwch a Lles, ac Integreiddio a Chydweithio wir yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu amgylchedd gwaith cadarnhaol, diogel a chydweithredol sy'n hwyluso'r canlyniadau gorau posibl i'n prosiectau. Mae ennill Prosiect y Flwyddyn ar ben hynny yn anrhydedd enfawr a diolch yn fawr i'r tîm a wnaeth y cyfan yn bosibl."

Dywedodd Simon Kneafsey, Cyfarwyddwr Prosiect Pensaernïol Atkins ar gyfer Ysgol Uwchradd WR Hwlffordd:

“Roedd y prosiect yn gydbwysedd perffaith rhwng anghenion cymuned yr ysgol, gweledigaeth addysgol yr awdurdod lleol, gofynion y cwricwlwm newydd i Gymru, cyfyngiadau’r gyllideb a’r rhaglen gyflawni. Gwaith tîm a chyfathrebu da – un nod ac fe’i cyflawnwyd. Mae pawb wrth eu bodd â’r ysgol newydd.

“Sbardunwyd dyluniad yr ysgol trwy ddatblygu lleoliadau addysgol ystwyth newydd a chyffrous sydd wedi’u cyfoethogi’n ddigidol sy’n bodloni anghenion y Cwricwlwm i Gymru newydd sydd ar ddod (dysgu’n annibynnol a datrys problemau). Mae’n cynnig cymysgedd o amgylcheddau ystafell ddosbarth traddodiadol ynghyd â mannau ar gyfer grwpiau trafod, grisiau mawr ar gyfer addysgu grwpiau a systemau clyweled a all fod yn sinemâu ac amgylcheddau ymgolli, hefyd.”

Ariannwyd yr ysgol gan Gyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru trwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “O ystyried yr heriau niferus y bu raid eu goresgyn i gyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus, mae’n wych gweld gwaith caled pawb dan sylw yn cael ei gydnabod trwy ennill y gwobrau mawreddog hyn.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd, ym mha ffordd bynnag, wedi cyfrannu at y cyflawniad hwn ac rwy’n gobeithio mai dyma fydd y dechrau yn unig o ran darparu amgylcheddau dysgu rhagorol i ddysgwyr a chymunedau ar draws Sir Benfro.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Mae integreiddio iechyd, lles a chwaraeon trwy ein holl wasanaethau yn ffocws allweddol i’r awdurdod lleol ac mae’r partneriaethau a ffurfiwyd yn ystod y prosiect hwn wedi sicrhau y crëwyd cyfleusterau rhagorol ar gyfer ein hanghenion addysgol a chymunedol, fel ei gilydd.

“Trwy gydweithio â’r ysgol a Morgan Sindall, datblygom Bentref Chwaraeon Sir Benfro, sydd eisoes yn cefnogi’r ysgol, y cyhoedd, clybiau a chynghreiriau’r sir. Mae’n gampws sy’n canolbwyntio ar addysg yn ystod y diwrnod ysgol ac yn ganolfan gymuned ffyniannus sy’n gwasanaethu Hwlffordd a’r sir gyfan gyda’r nos ac ar benwythnosau, ac mae wedi sicrhau bod ein tirwedd chwaraeon wedi’i chyfoethogi fel rhan o’r prosiect hwn.”