English icon English
Dyn yn dal beiro dros y pad ysgrifennu

Cyflwynwch gais am grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer eich cymuned neu fusnes

Apply for UK Shared Prosperity Fund grants for your community or business

Mae grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y Deyrnas Unedig o hyd at £100,000 ar gael i gymunedau a busnesau yn Sir Benfro.

Gellir gwneud cais am grantiau busnes Cyfalaf a Refeniw yn amrywio o £500 i £50,000 o dan bedwar categori – Twf Busnes, Cychwyn Busnes, Menter Ieuenctid a Lleihau Carbon.

Nod yr ymyrraeth grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu, ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.

Mae grantiau o hyd at £100,000 ar gael hefyd ar gyfer gweithgarwch treialu ledled cymunedau Sir Benfro trwy Gronfa Cymunedau Cynaliadwy Sir Benfro.

Mae hyn yn cefnogi gwaith i ddatblygu a chreu gweithgareddau sy’n ymwneud â thaclo tlodi, mynediad at wasanaethau, yr amgylchedd a seilwaith gwyrdd, ymgysylltu â’r gymuned, gwirfoddoli a gwyliau, digwyddiadau, celfyddydau lleol, a gweithgareddau diwylliannol a threftadaeth.

Bydd pob grant yn gyfraniad at gynllun cyffredinol arfaethedig, a bydd rhaid i’r ymgeisydd ddod o hyd i ganran o arian cyfatebol o ffynhonnell arall.

Bydd Grant Tyfu Busnes Sir Benfro yn helpu busnesau lleol a mewnfuddsoddwyr i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy, gan arwain at greu a diogelu swyddi ar draws y Sir ac felly gwella’r economi leol.

Nod y Gronfa Cychwyn Busnes yw cefnogi creu busnesau newydd yn y Sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi a hybu’r economi leol.

Yn yr un modd, mae’r Gronfa Menter Ieuenctid wedi’i bwriadu ar gyfer ymgeiswyr 16 i 21 oed sy’n dymuno creu busnesau newydd yn y Sir.

Bydd y Gronfa Lleihau Carbon yn rhoi cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy.

Mae’n ceisio cefnogi busnesau lleol i fod yn gynaliadwy a symud tuag at garbon sero net ar yr un pryd â pharhau i dyfu a ffynnu. 

Mae tua £1 filiwn ar gael, felly anogir unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu i fynegi diddordeb cyn gynted â phosibl.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Paul Miller: “Mae’r grantiau hyn yn gyfle allweddol i fusnesau newydd a sefydledig dyfu a chyfrannu at adfywio ein trefi ar yr un pryd â chefnogi’r agenda lleihau carbon.”

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau, y Cynghorydd Neil Prior: “Gall cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ac mae’n bwysig bod Sir Benfro yn gwneud y mwyaf o’i chyfleoedd.”

Gweinyddir y broses ymgeisio am Grantiau Busnes gan y tîm Datblygu Busnes yn adran Datblygu Economaidd yr Awdurdod Lleol.