yn tu allan i'r cyfleuster lle mae'n changing places yn y maes parcio Glan Yr Afon

Cyfleuster ‘Changing Places’ newydd yn helpu i wneud Cyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd yn hygyrch i bawb

New Changing Places facility helps make Haverfordwest Transport Interchange accessible for all

Rhannu:

Mae hwb mawr i hygyrchedd a chynhwysiant wedi cyrraedd canol Sir Benfro, wrth i gyfleuster toiledau ‘Changing Places’ wedi’i gyfarparu’n llawn agor yng Nghyfnewidfa Drafnidiaeth newydd Hwlffordd.

Mae'r cyfleuster arbenigol yn cynrychioli ymrwymiad i sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u hanghenion, yn gallu teithio gyda mwy o annibyniaeth, hyder ac urddas.

Mae'r nodweddion yn cynnwys mainc newid y gellir addasu ei huchder, teclyn codi o’r nenfwd, sgrin preifatrwydd a digon o le i ddefnyddiwr cadair olwyn a gofalwyr, gan gynnig lefel o hygyrchedd ymhell y tu hwnt i doiled hygyrch safonol.

Mae'r ddarpariaeth newydd yn rhan o uchelgais y Cyngor i sicrhau y gall pawb deithio gyda hyder a mwynhau mwy o annibyniaeth wrth fynd i’r gwaith, addysg, a defnyddio gwasanaethau a chyfleoedd hamdden.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: "Rydym yn hynod falch bod Cyfnewidfa Drafnidiaeth newydd Hwlffordd yn cynnwys cyfleuster Toiledau ‘Changing Places’ sydd o ansawdd uchel. Mae hwn yn llawer mwy na thoiled; mae'n gyfleuster hanfodol sy'n agor cyfleoedd i bobl a theuluoedd a allai fel arall wynebu rhwystrau sylweddol wrth deithio.

"Mae hygyrchedd a chynhwysiant wedi bod yn ganolog i'r datblygiad hwn, ac mae'r cyfleuster yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod pawb yn gallu elwa o'r ganolfan drafnidiaeth newydd wych hon a mwynhau. Mae'n enghraifft arall o sut rydym yn gweithio i wneud Sir Benfro yn sir groesawgar i bawb."

Ychwanegodd y Cynghorydd Alistair Cameron, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol Oedolion: "Mae agor y cyfleuster Toiledau ‘Changing Places’ hwn yn garreg filltir go iawn ac yn rhywbeth y dylem ni ei ddathlu. I lawer o bobl ag anableddau cymhleth a'u teuluoedd, gall y ffaith bod cyfleusterau addas ar gael fod y gwahaniaeth rhwng gallu teithio a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol neu aros gartref.

"Trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau fel y rhain, rydym yn helpu i greu Sir Benfro fwy cynhwysol lle mae pawb yn cael y cyfle i deithio, archwilio a mwynhau popeth sydd gan ein sir i'w gynnig gyda hyder, cysur ac urddas."

Mae'r cyfleuster eisoes wedi cael ei groesawu gan deuluoedd lleol sy'n cydnabod y gwahaniaeth cadarnhaol y bydd yn ei wneud.

Clare Williams, Uwch Beiriannydd  Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd: “Mae cyflwyno cyfleuster 'Changing Places' yn y Gyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd yn gam sylweddol ymlaen o ran hygyrchedd a chynhwysiant yn y dref.

“Yn fwy na dim ond cyfleuster, mae’n cynnig urddas, annibyniaeth a chyfleoedd y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol; mae’n galluogi pobl anabl a’u teuluoedd i deithio’n hyderus, cael mynediad at wasanaethau, a mwynhau popeth sydd gan Hwlffordd i’w gynnig.”

Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn nyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Benfro, gan wella cysylltedd a sicrhau bod hygyrchedd yn parhau i fod wrth wraidd profiad ymwelwyr. Bydd y cyfleuster ‘Changing Places’ newydd yn helpu mwy o bobl nag erioed i fwynhau'r rhyddid a'r hyder i deithio ledled y sir.