Staff arlwyo ysgolion ar y rhestr fer mewn nifer o gategorïau gwobrau’r diwydiant ar gyfer Cymru gyfan
School catering staff shortlisted in multiple Wales wide industry award categories
Mae gwaith gwych gwasanaeth arlwyo Cyngor Sir Penfro wedi cael ei gydnabod gan nid un ond chwech o leoedd ar restr fer gwobrau LACA Cymru eleni.
Cynhelir Gwobrau Cydnabod Rhagoriaeth flynyddol Cymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol Cymru (LACA) yn ddiweddarach y mis hwn a bydd grŵp o dîm Sir Benfro yno i ddathlu eu cyflawniadau.
Mae'r digwyddiad yn arddangos unigolion a thimau sy'n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i arlwyo addysg a bwyd ysgol gyda'r nifer uchaf erioed o gyflwyniadau o ansawdd uchel yn cael eu hystyried gan drefnwyr eleni.
Mae gwasanaeth arlwyo Cyngor Sir Penfro wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pum categori gan gynnwys y Wobr Arloesi a’r Wobr Effaith Gymunedol, yr olaf am y gwaith gyda'r nosweithiau cawl cymunedol.
Gallai'r timau yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd neu Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod ennill Tîm Arlwyo mewn Ysgolion y Flwyddyn tra bod gan y Goruchwylwyr Ardal, Sian Davies ac Emma Williams, gyfle i ennill Gwobr Seren Ddisglair.
Gallai Sir Benfro hefyd ennill gwobr Tîm Rheoli Gwasanaethau Arlwyo'r Flwyddyn.
Ar y noson, bydd Gwobr fawreddog Cadeirydd Rhanbarth LACA Cymru hefyd yn cael ei chyflwyno i unigolyn neu grŵp arbennig o bobl, a benderfynir gan y pwyllgor rhanbarthol, i gydnabod yr hyn a all fod yn gyfraniadau gwahanol iawn i arlwyo addysg yng Nghymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: "Mae'r timau arlwyo i gyd yn gweithio'n eithriadol o galed, felly mae'n wych gweld hynny'n cael ei gydnabod gan y LACA. Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau mor uchel eu bri, pan fyddant yn cystadlu yn erbyn enwebiadau ledled Cymru, yn gamp ynddo'i hun a dylai pob un ohonynt fod yn hynod falch."
Nodiadau i olygyddion
Yn y llun: Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod tim arlwyo