Cadeirydd y Cyngor Cllr Delme Harries, Dr Mandy James, TUC, Jonathan Lewis, Unison, Leader Cllr Tessa Hodgson & CEO Will Bramble.

Cyngor Sir Penfro yn falch o ymrwymo â Siarter Twf

Pembrokeshire County Council proud to sign up to the Twf Charter

Rhannu:

Llofnododd Cyngor Sir Penfro Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith yn ffurfiol, yn ystod digwyddiad arbennig yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae llofnodi'r Siarter yn cadarnhau ymrwymiad yr awdurdod i hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg ar draws ei weithlu a'i wasanaethau.

Wedi'i ddatblygu gan TUC Cymru, mae Siarter Twf yn darparu fframwaith i gyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio a dysgu'r Gymraeg yn y gwaith.

Nod y Siarter yw cefnogi sefydliadau ar draws pob sector i gyflawni mwy o gydraddoldeb ieithyddol, gan sicrhau bod gan weithwyr gyfle i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg drwy gydol eu gyrfaoedd.

Drwy lofnodi’r Siarter ddydd Mercher, 5 Awst, mae Cyngor Sir Penfro yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur cydnabyddedig i feithrin diwylliant dwyieithog cynhwysol lle mae siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg a’r rhai sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog.

Twf charter Siarter Twf 2

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Delme Harries: “Rydyn ni wrth ein bodd yn llofnodi Siarter Twf a chryfhau ymhellach ein hymrwymiad i’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Penfro.

“Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n hunaniaeth, ac rydyn ni am i’n gweithleoedd fod yn amgylcheddau croesawgar a chefnogol lle gall staff ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn hyderus.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Sir Benfro, Will Bramble: “Mae egwyddorion y Siarter Twf yn cyd-fynd yn agos â’n huchelgeisiau i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth ieithyddol.

“Drwy gydweithio â’n gweithwyr a chydweithwyr yr undebau llafur, gallwn ni barhau i gynyddu cyfleoedd i’r Gymraeg ffynnu yn y gweithle a thu hwnt.”

Dywedodd Dr Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru: “Llongyfarchiadau i Gyngor Sir Penfro, Unsain, GMB ac Unite am ymrwymo i Siarter Twf a gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i greu gweithle dwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith. Mae gan undebau llafur rôl hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru, diogelu a hyrwyddo hawliau Cymraeg gweithwyr fel mater o degwch a chydraddoldeb a sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel heb ragfarn a barn.

"Mae undebau yn cefnogi aelodau a gweithwyr i adnabod, trefnu a galluogi cynydd parhaol i bawb wrth ddefnyddio Cymraeg yn y gwaith a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

"Mae defnyddio'r Gymraeg yn sgil gwerthfawr ac ymarferol ac yn drysor y gallwn ni i gyd ddathlu ac ymfalchïo ynddo – yn y gwaith ac yn ein bywydau. Gall Twf helpu gyda chynllunio a sicrhau bod gweithleoedd dwyieithog cynhwysol y dyfodol yn fannau lle gall pob gweithiwr ddefnyddio ei sgiliau dwyieithog.”

Twf Charter Siarter Twf 3

Dywedodd Unsain, Unite a GMB ar y cyd: “Fel canghennau undebau llafur, rydyn ni'n falch iawn o ymrwymo i Siarter Twf TUC Cymru a'i hegwyddorion, oherwydd ei fod yn hyrwyddo tegwch, ecwiti a chynhwysiant i bob gweithiwr wrth ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd.

“Rydym ni'n cefnogi staff sy'n siarad Cymraeg ac yn annog eraill i ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Byddwn hefyd yn cydweithio i sicrhau cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith ac i greu gweithle dwyieithog cynhwysol.

Mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr ac ymarferol ac yn drysor gallwn ei dathlu – yn y gwaith a’n bywydau. Mae Siarter Twf yn cynnig cyfle real a phwysig i ni gyd i gryfhau ein hymrwymiad i weithle dwyieithog – fel cyflogwr, aelodau undebau llafur a gweithwyr, a bydd yn cefnogi ein cymunedau Cymraeg hefyd.”

Mae'r cyngor yn ymuno â nifer gynyddol o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi mabwysiadu'r Siarter fel rhan o'u hymrwymiad i greu gweithleoedd teg, cynhwysol a dwyieithog.

Mae llofnodi’r Siarter hefyd yn cefnogi uchelgeisiau strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ac annog mwy o ddefnydd o’r iaith mewn bywyd bob dydd.

Mae gweithleoedd yn cael eu cydnabod fel amgylcheddau allweddol ar gyfer hybu a normaleiddio defnyddio’r Gymraeg, ac mae Siarter Twf yn darparu cymorth ymarferol i helpu sefydliadau i greu cyfleoedd i staff ar bob lefel ddefnyddio'r iaith yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws ei wasanaethau a’i gymunedau, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda gweithwyr ac undebau llafur i wireddu buddion Siarter Twf yn y blynyddoedd i ddod.

Am ragor o wybodaeth am Siarter Twf, ewch i www.tuc.org.uk/cy/Twf