Free Eisteddfod Welsh Taster courses
On 1-8 August, the National Eisteddfod visits Llantwd, North Pembrokeshire.

Cyrsiau Blasu yr Eisteddfod am ddim

Free Eisteddfod Welsh taster courses

Rhannu:

Ar 1-8 Awst, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Llantwd, Gogledd Sir Benfro.

Yr Eisteddfod yw'r ŵyl deithiol fwyaf yn Ewrop, ac eleni, mae'n 850 mlynedd ers yr Eisteddol gyntaf un! Dyma ‘ch cyfle i chi annog aelodau teulu neu ffrindiau i ddod i ddysgu mwy am yr Eisteddfod, ei thraddodiadau a dysgu ychydig o Gymraeg sylfaenol i ddefnyddio wrth fynychu'r ŵyl ddiwylliannol arbennig iawn hon.

“Bydd hwn yn gyfle gwych i ddysgu rhywfaint o Gymraeg i baratoi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las. Mae ein tiwtoriaid cyfeillgar yn edrych ymlaen at eich croesawu a'ch helpu i deimlo'n rhan o'r digwyddiad gwych hwn.

"Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr pur,” meddai Dawn Bowen, Rheolwr Ansawdd, Dysgu Cymraeg Sir Benfro.

Mae’r cyrsiau AM DDIM ar yr amseroedd a'r lleoliadau canlynol. Cliciwch y dolenni i gofrestru:

Canolfan Bloomfield, Arberth Dydd Llun, 13 a 20 Gorffennaf 18:30-20:30 →NARBLAS

Canolfan Hermon, Dydd Mercher, 15 a 22 Gorffennaf 10:00 -12:00 HERBLAS

Canolfan Ddysgu Gymunedol Hwlffordd, Dydd Mawrth, 21 a 28 Gorffennaf 13:00 - 15:00→ HAVBLAS