Dathlu'r rhai sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i groesawu Eisteddfod y Garreg Las
Celebrating those who have gone the extra mile to welcome Eisteddfod y Garreg Las
Bydd y sesiwn gyntaf ym Mhentre'r Garreg Las yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn gyfle i ddiolch yn gyhoeddus i'r gwirfoddolwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol yn eu pwyllgorau codi arian lleol.
Mae Cyngor Sir Penfro yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'w Pentre sy'n dathlu pobl, cymunedau a diwylliant rhanbarth ehangach yr Eisteddfod ar draws y dair sir, gan roi llwyfan i straeon ac i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig at lwyddiant yr Eisteddfod.
Mae pwyllgorau lleol ar draws rhanbarth yr Eisteddfod wedi gweithio'n ddiwyd dros y blynyddoedd diwethaf i godi cannoedd o filoedd o bunnoedd er mwyn sicrhau bod modd croesawu'r Brifwyl i'r ardal.
Yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, John Davies, mae'r ymgyrch codi arian wedi bod yn un hanesyddol.
Dywedodd: "Mae dros £528,000 wedi'i godi hyd yma, y swm mwyaf erioed i'w godi gan gronfa leol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol. Mae hynny'n dyst i haelioni pobl yr ardal ac i waith diflino'r pwyllgorau lleol sydd wedi rhoi cymaint o'u hamser a'u hegni dros y blynyddoedd diwethaf."
Bydd y rhaglen ym Mhentre'r Garreg Las yn dechrau gyda seremoni arbennig, 'Dathlu ein Pencampwyr', lle bydd unigolion o bob rhan o'r sir yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad arbennig i'r ymgyrch codi arian.
Gwahoddir pob pwyllgor lleol i enwebu unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol – boed hynny drwy drefnu digwyddiadau, denu cefnogaeth yn y gymuned neu roi oriau di-ri o waith gwirfoddol, a byddant yn cael eu gwahodd i'r llwyfan i dderbyn cydnabyddiaeth o flaen ymwelwyr yr Eisteddfod.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Delme Harries: "Mae Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi bod yn ymdrech gymunedol wirioneddol, ac mae'n bleser mawr i ni ddechrau'r wythnos drwy ddiolch i'r bobl hynny sydd wedi rhoi o'u hamser, eu hegni a'u hymrwymiad i wneud y cyfan yn bosibl. Yn rhy aml, mae gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni, ac mae'r seremoni hon yn gyfle i gydnabod eu cyfraniad arbennig ac i ddweud diolch yn gyhoeddus ar ran ein cymunedau.
Gobeithir y bydd eu gwaith yn gadael gwaddol lleol, a bydd grwpiau’n parhau i ymgysylltu a hyrwyddo ysbryd cymunedol ar ôl yr eisteddfod.
Bydd 'Dathlu ein Pencampwyr' yn agor rhaglen Pentre'r Garreg Las am 10.00yb ddydd Sadwrn 1 Awst, gan osod y naws ar gyfer wythnos o ddathlu cyfraniad pobl a chymunedau'r fro – y bobl sydd wedi gwneud Eisteddfod y Garreg Las yn bosibl.
Enwebwch nhw heddiw drwy lenwi'r ffurflen yma Enwebu Pencampwyr - Llenwi'r ffurflen