Gorymdaith yr Eisteddfod i gychwyn o Dyddewi
Eisteddfod procession to set off from St Davids
I ddathlu 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf, bydd gorymdaith yn dilyn pyped enfawr o’r sylfaenydd, yr Arglwydd Rhys, o amgylch gorllewin Cymru.
Bydd yr Arglwydd Rhys, a grewyd gan Small World Byd Bach, yn cyrraedd Tyddewi ar 19 Mehefin, cyn teithio i gymunedau ledled Sir Benfro a Cheredigion fel rhan o Garreg Filltir Las: Taith yr Arglwydd Rhys.
- Dydd Gwener 19 Mehefin - Tyddewi ac Oriel y Parc, 5.45pm
- Dydd Sadwrn 20 Mehefin - Cenarth 12pm a Chastell Newydd Emlyn, 4.30pm
- Dydd Sul 21 Mehefin – Talgarreg, 12pm a Llangrannog, 6pm
- Dydd Iau 25 Mehefin – Wdig, 6pm
- Dydd Gwener 26 Mehefin – Maenclochog, 6pm
Bydd rhai ffyrdd ar gau dros dro wrth i'r Arglwydd Rhys basio drwodd.
Bydd dathliad diwrnod olaf yn cael ei gynnal yn Aberteifi, cartref yr Eisteddfod gyntaf, gyda digwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer y dref, y castell a'r afon.
Dywedodd y Cynghorydd Delme Harries, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro a Hyrwyddwr y Gymraeg: "Rwy'n llawn cyffro bod y dathliad eiconig hwn o ddiwylliant Cymreig yn dod yn ôl i'n sir am y tro cyntaf ers 2002. Mae'n gyfle gwych i ni arddangos popeth sy'n gwneud Sir Benfro mor arbennig i weddill Cymru a thu hwnt.
“Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl, gan gynnwys y llu o unigolion ymroddedig sy'n ymwneud â phwyllgorau lleol ledled Sir Benfro, De Ceredigion, a Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Mae eu hymrwymiad a'u hysbryd cymunedol wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Edrychaf ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn gynnes i Lantwd ym mis Awst ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn Eisteddfod gofiadwy llawn bwrlwm.”
Ategodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gymraeg, y Cynghorydd Alistair Cameron, y croeso i'r Eisteddfod sydd ar ddod.
Ychwanegodd: "Mae'r cydweithrediad ar draws Bro'r Garreg Las yn ffordd wych o uno cymunedau gyda'i gilydd yn y cyfnod cyn y digwyddiad yr haf hwn.
“Hoffwn ychwanegu fy niolch i bawb sy'n gweithio mor galed i wneud yr Eisteddfod hon mor arbennig i ddathlu ein hiaith a'n diwylliant Cymraeg.”
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Gan ddod â chymuned, treftadaeth a pherfformiad cyfoes at ei gilydd, mae Carreg Filltir Las: Taith yr Arglwydd Rhys yn addo bod yn ddathliad pwerus o'r Eisteddfod Genedlaethol, gan anrhydeddu ei gwreiddiau wrth edrych ymlaen at ei dyfodol."
Mae mwy o wybodaeth yn https://www.facebook.com/eisteddfod neu https://eisteddfod.cymru/