Gwasanaethau bws i ymwelwyr yr Eisteddfod
Bus services for Eisteddfod visitors
Neidiwch ar fws i fwynhau Eisteddfod y Garreg Las, gyda gwasanaethau ychwanegol yn ei gwneud hi'n haws gadael y car gartref wrth deithio i'r digwyddiad arbennig hwn yng ngogledd Sir Benfro.
Bydd gwasanaeth bws T5 TrawsCymru yn mynd â theithwyr yn syth i'r Maes yn Llantwd, sy'n rhedeg yn rheolaidd o Hwlffordd i Aberteifi drwy Abergwaun.
Bydd TrawsCymru hefyd yn darparu bysiau a gwasanaethau hwyr gyda'r nos rhwng Abergwaun ac Aberteifi drwy gydol wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r gwasanaeth bws 430 yn darparu cyswllt o Arberth i Aberteifi drwy Grymych.
Diolch i gefnogaeth Cyngor Sir Penfro, bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg bob dydd drwy gydol yr Eisteddfod gyda'r holl wasanaethau yn rhedeg yr holl ffordd i/o Arberth, a bws ychwanegol yn hwyr gyda'r nos yn gadael yn uniongyrchol o'r Maes am 11.15pm. Newidiwch yn Aberteifi i fynd ymlaen i'r Maes.
Gall ymwelwyr â'r Eisteddfod hefyd ddefnyddio Bws yr Arglwydd Rhys, gwasanaeth gwennol am ddim i'r Maes o Sgwâr Finch, Aberteifi, bob awr ar yr awr, 7am i hanner nos.
Mae teithio ar fws yn rhad ac am ddim i deithwyr sydd â Thocyn Bws Rhatach Cymru Gyfan. Gall pobl ifanc 21 oed neu iau deithio am £1 y daith (uchafswm o £3 drwy'r dydd) (Bydd angen Cerdyn Teithio os ydych yn 16-21 oed). Edrychwch ar brisiau arbennig yr Eisteddfod sydd ar gael gan TrC https://traws.cymru/cy/catch-the-t5-bus-straight-to-the-eisteddfod.
Gellir lawrlwytho amserlenni wythnos Eisteddfod T5 a 430 yn https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni/newidiadau-arfaethedig-ir-gwasanaeth-bysiau-rev
Am wybodaeth am deithio i'r Eisteddfod o ymhellach i ffwrdd neu ar fws, gweler https://eisteddfod.cymru/2026/cyrraedd-y-maes, lle gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion am gwmnïau bysiau preifat yn cynnig trosglwyddiadau o rai pentrefi Sir Benfro sydd oddi ar y llwybrau bysiau arferol.