Prosiect Stori ar Sedd yn dod â straeon lleol yn fyw ar draws rhanbarth yr Eisteddfod
Stori ar Sedd (Story on a Seat) project brings local stories to life across the Eisteddfod region
Mae prosiect celfyddydau cymunedol unigryw, Stori ar Sedd, wedi dod ag ysgolion o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ynghyd i ddathlu treftadaeth leol trwy greadigrwydd a chydweithio.
Dros y misoedd diwethaf, mae'r tîm yn FRAME Sir Benfro wedi gweithio'n ddiflino i greu dwsinau o feinciau pren hardd wedi'u gwneud â llaw, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer un o brosiectau cymunedol mwyaf uchelgeisiol y flwyddyn.
Fel menter gymdeithasol, mae FRAME yn cefnogi pobl sy'n wynebu amrywiaeth o heriau drwy ddarparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, magu hyder a chael mynediad at gyflogaeth ystyrlon, mae ei gyfraniad at y prosiect felly yn arbennig o arwyddocaol.
Wrth i dymor yr haf ddod i ben, roedd ysgolion ar draws rhanbarth yr eisteddfod yn brysur yn trawsnewid eu meinciau yn weithiau celf lliwgar, pob un yn adrodd stori unigryw ei hardal leol.
Drwy waith celf, geiriau a dylunio creadigol, mae disgyblion wedi dathlu’r hanes, y bobl, y tirweddau a’r traddodiadau sy’n gwneud eu cymunedau’n arbennig.
Fel mae cân y prosiect 'Croeso i Fro'r Garreg Las’ yn ei wneud, mae Stori ar Sedd yn cwmpasu'r tair sir ac yn arddangos grym cydweithio rhanbarthol drwy annog pobl ifanc i archwilio a dathlu eu hunaniaeth leol.
Bellach, mae'r meinciau gorffenedig yn barod i groesawu ymwelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Gallwch chi eu gweld wedi'u gwasgaru o amgylch y Maes, yn creu llwybr o straeon o gymunedau ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Gyda'i gilydd, maen nhw'n dathlu creadigrwydd ein hysgolion a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y rhanbarth.
Ar ôl yr Eisteddfod, bydd pob mainc yn dychwelyd i'w hysgol, lle bydd yn aros fel etifeddiaeth barhaol ac atgof parhaus o falchder lleol, creadigrwydd a phartneriaeth gymunedol.
Rydym yn annog ymwelwyr i gadw eu llygaid ar agor am feinciau Stori ar Sedd wrth i chi grwydro'r Maes. Os gwelwch chi un, byddem wrth ein bodd yn ei gweld - rhannwch eich lluniau o'r meinciau ar y cyfryngau cymdeithasol a helpwch ni i ddathlu gwaith anhygoel ein hysgolion a'r bartneriaeth a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl.