Ymunwch â ni ym Mhentre’r Garreg Las
Join us in Pentre’r Garreg Las
Mae Cyngor Sir Penfro yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i Bentre’r Garreg Las yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd Eisteddfod y Garreg Las, a gynhelir yng ngogledd y sir rhwng 1 Awst a 8 Awst, yn ddathliad wyth diwrnod o iaith, creadigrwydd a diwylliant Cymru.
Mae Pentre’r Garreg Las, sydd wedi’i leoli ger mynedfa Maes yr Eisteddfod yn Llantwd, yn cynrychioli rhanbarth yr Eisteddfod, sydd hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Pentre yn lle bywiog a chroesawgar, yn dathlu’r ardal trwy ei diwylliant, ei phobl a’i straeon. Mae atyniadau’n cynnwys dwy babell sy’n cynnal sgyrsiau, cerddoriaeth, perfformiadau ac arddangosiadau, rodeo defaid, cwrs golff antur a realiti rhithwir tanddwr.
Bydd arddangosfeydd hefyd dan ofal Croeso Sir Benfro, Archifdy Sir Benfro ac Addysg Sir Benfro.
Mae thema Pentre'r Garreg Las yn seiliedig ar yr acronym PAWB, ac mae'n cynrychioli'r pedair prif thema sy'n rhedeg drwy'r rhaglen ac yn adlewyrchu popeth sydd gan y rhanbarth i'w gynnig, gan gynnwys pobl, Amgylchedd, Wes, Wes a Bwyd.
Mae Pabell PAWB yn cynnwys rhaglen amrywiol sy’n dathlu talent, diwylliant a chreadigrwydd y rhanbarth, tra bod Pabell Pentigili yn llwyfan awyr agored sy’n cynnig croeso cynnes i ymwelwyr, gyda cherddoriaeth fyw, sesiynau adrodd straeon a pherfformiadau sy’n arddangos doniau lleol o bob cwr o’r Gorllewin.
Bydd sesiynau coginio Blas o’r Fro yn dathlu cynnyrch rhanbarth y Preseli, ei flas a straeon am y bwyd.
Awgrym gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood yw slogan y Pentre ‘Hen Derfyn nad yw’n Darfod’, neu ‘An Ancient Boundary That Never Ends’ o’i gyfieithu, wedi’i ysbrydoli gan gerdd gan Dewi Emrys. Mae’r geiriau’n adlewyrchu hanes a threftadaeth yr ardal, y cysylltiad â’r arfordir a’r dirwedd, a’r syniad bod y gorffennol yn parhau i lunio’r dyfodol.
Mae ap yr Eisteddfod Genedlaethol bellach yn fyw, yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau a gynhelir ar draws y Maes bob dydd, gan gynnwys amserlen lawn ar gyfer Pentre’r Garreg Las.
Am wybodaeth am yr ŵyl ewch i 2026 | Eisteddfod