Yr Eisteddfod Genedlaethol yn gadael etifeddiaeth barhaus i Sir Benfro
National Eisteddfod leaves a lasting legacy for Pembrokeshire
Denodd Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus dros gan mil o ymwelwyr dros wythnos i ddathlu’r iaith, y diwylliant a’r gymuned Gymreig yng ngogledd Sir Benfro, gan adael etifeddiaeth barhaus i’r sir.
Daeth Eisteddfod y Garreg Las â phobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Lantwd yr wythnos diwethaf, gyda Phentre’r Garreg Las Cyngor Sir Penfro yn gyflym yn dod yn un o atyniadau maes yr Eisteddfod.
Canmolodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Delme Harries, bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn llwyddiant.
Dywedodd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a chwaraeodd ran yn cyflwyno’r dathliad bythgofiadwy hwn o iaith, diwylliant a chymuned Cymru.
“Drwy gydol yr wythnos, roedd Pentre’r Garreg Las yn ganolfan o weithgareddau bywiog, gan arddangos y gorau o Sir Benfro i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Harries: “Wrth i ni ddathlu llwyddiant Eisteddfod eleni, rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar y dyfodol ac ar etifeddiaeth barhaus cynnal yr ŵyl genedlaethol hon.
“Ein blaenoriaeth yw adeiladu ar y momentwm hwn drwy barhau i gynyddu defnyddio’r Gymraeg ar draws pob rhan o Sir Benfro. Rydym am weld cymunedau ar ddwy ochr Llinell Landsger yn dod at ei gilydd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog ym mhob agwedd ar fywyd yn y gymuned.
“Mae cynnal yr Eisteddfod yng nghefn gwlad Sir Benfro hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol ein cymunedau gwledig. Drwy waith Gweithgor Cymunedau Gwledig Cyngor Sir Penfro, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod etifeddiaeth yr Eisteddfod a Phentre’r Garreg Las yn parhau.
“Drwy gefnogi Pentrefi y Garreg Las i ffynnu, gallwn sicrhau bod yr ysbryd, yr hyder a’r cyfleoedd a grëwyd gan y digwyddiad nodedig hwn yn parhau i fod o fudd i genedlaethau i ddod.”
Roedd Pentre’r Garreg Las yn falch o gynrychioli rhanbarth ehangach yr Eisteddfod, a oedd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin, gan arddangos y gorau o’r ardal trwy ei phobl, ei hiaith, ei diwylliant, ei threftadaeth, ei bwyd a’i hamgylchedd.
Gwelodd yr wythnos hefyd achlysuron arwyddocaol yn dathlu cyflawniadau ac uchelgeisiau Sir Benfro, gan gynnwys llofnodi siarter Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith, a chydnabod hyrwyddwyr lleol a aeth yr ail filltir i groesawu’r digwyddiad i’r ardal.