English icon English

Newyddion

Canfuwyd 696 eitem, yn dangos tudalen 42 o 58

Digwyddiad galw heibio busnes yn BIC gyda llawer o bobl yn sefyll o gwmpas

Hwb cyllid ar gael i entrepreneuriaid busnes ifanc Sir Benfro

Mae’r Gronfa Menter Ieuenctid a lansiwyd yn ddiweddar yn cynnig hwb i fusnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan bobl 21 oed ac iau.

West Street Abergwaun

Chwilio am arlunydd tir cyhoeddus i ddylunio llwybrau newydd ar gyfer Abergwaun ac Wdig

Mae Cyngor Sir Penfro yn comisiynu arlunydd arweiniol i gyd-greu llwybr newydd neu gyfres o lwybrau ar gyfer gefeilldrefi Abergwaun ac Wdig.

Gweinyddes gyda gwallt hir, syth brown yn gwenu gyda hambwrdd o goffi

Datgloi Potensial: Mae menter Dyfodol Sgiliau Cyngor Sir Penfro yn creu cyfleoedd gwaith cyffrous

Mewn datblygiad addawol, mae Gwaith yn yr Arfaeth, sy'n elfen ddeinamig o wasanaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Penfro, wedi bod yn corddi’r dyfroedd ers mis Ebrill 2023.

Eleanor a Ashley John Baptiste 2

Merch yn ei harddegau sy’n byw mewn gofal maeth yn Sir Benfro yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog

Mae merch yn ei harddegau o Sir Benfro sydd ag uchelgeisiau i fod yn swyddog heddlu wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu, sef yr acolâd maethu mwyaf mawreddog yn y DU, i gydnabod ei chyflawniadau eithriadol.

Amroth electric vehicle charger - Gwefrydd cerbydau trydan Amroth

Sir Benfro yw Rhif 1 yng Nghymru ar gyfer Pwyntiau Gwefru EV

Mae Sir Benfro yn parhau i fod yn rhif un yng Nghymru ac yn yr 20 y cant uchaf yn y DU am nifer y pwyntiau gwefru cerbydau EV, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Grŵp mawr gyda Jo Price, Cyng Anji Tinley gyda merched a bechgyn a staff Sefydliad Cruyff ar Gwrt newydd Cruyff

Agor cyfleuster newydd yng nghanolfan ieuenctid Hwlffordd, diolch i sefydliad chwaraeon arwr pêl-droed

Mae 'Cwrt Cruyff' newydd sbon wedi agor ym Mhrosiect Ieuenctid a Chymuned y Garth, a adnabyddir yn lleol fel The Hive, gan y cyn-eicon pêl-droed a rygbi rhyngwladol, Jo Price.

Menyw yn edrych ar liniadur mewn caffi

Neges atgoffa am ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch

Mae neges yn mynd allan i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Sir Benfro i’w hatgoffa i wneud cais am ryddhad ardrethi.

Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 16-22 Hydref Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol National Adoption Service

Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn annog rhagor o Gymry i ystyried mabwysiadu.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu. Daw hyn wrth i grwpiau o siblingiaid, plant ag anghenion arbennig, a phlant hŷn yng Nghymru barhau i chwilio am eu ‘cartref am byth’.

Disgyblion Ysgol Bro Gwaun gyda'r pennaeth Paul Edwards a'r Cyfarwyddwr Addysg Steven Richard-Downs

Llwyddiant Ysgol Bro Gwaun yn y Marc Diogelwch Ar-lein yn unigryw yng Nghymru

Mae gan Ysgol Bro Gwaun “ymagwedd glir a chyson ac mae pawb yn gyfrifol am ddiogelwch ar-lein”, gan arwain at ddyfarnu gwobr fawreddog y Marc Diogelwch Ar‑lein.

cymorth digidol

Y Tîm Cymorth Cymunedol Digidol – yma i helpu

Ydych chi, neu ffrind neu aelod o'r teulu, angen cymorth gyda thechnoleg ddigidol?

Dynion a merched tîm Gwaith yn yr Arfaeth yn edrych i fyny at y camera uwchben

Grymuso Lles: Bore coffi ysbrydoledig Gwaith yn yr Arfaeth yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl ar y Cynllun Ailddechrau

Ddydd Gwener, 29 Medi, gosododd Gwaith yn yr Arfaeth y llwyfan ar gyfer bore eithriadol o les ac ymgysylltu, gan weithio mewn partneriaeth â Serco a Maximus i drefnu digwyddiad coffi lles oedd yn hollol drawsnewidiol.

Classroom - Ystafell ddosbarth

Dyddiad cau lleoedd ysgolion uwchradd yn agosáu

Bydd angen i rieni disgyblion Blwyddyn 6 yn Sir Benfro ymgeisio am leoedd ysgolion uwchradd ar gyfer mis Medi 2024 erbyn y dyddiad cau, sef 20 Rhagfyr 2023.