Newyddion
Canfuwyd 701 eitem, yn dangos tudalen 37 o 59
Cau maes parcio Neuadd y Sir dros y penwythnos
Bydd maes parcio Neuadd y Sir yn Hwlffordd ar gau y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Chwefror) tra bod gwaith cynnal a chadw a pheirianneg yn cael ei wneud.
Cynllun newydd i helpu adfywio canol trefi lleol
Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio cynllun newydd i gefnogi canol trefi drwy helpu perchnogion eiddo i adfywio eu heiddo.
Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach yn Sir Benfro
Mae Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach unwaith eto yn cefnogi pobl ledled Sir Benfro gyda chostau byw'r gaeaf hwn.
Comisiynydd yr Heddlu yn amlygu prosiect atal troseddau mewn ysgolion
Ymunodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys â Thîm Troseddau Ieuenctid Cyngor Sir Penfro mewn digwyddiad atal troseddu yn ddiweddar.
Cynhadledd i dynnu sylw at gyfleoedd Dyframaeth Sir Benfro
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a newydd-ddyfodiaid yn y diwydiant dyframaeth i Gynhadledd Dyframaeth gyntaf y sir.
Digwyddiad rhwydweithio bwyd yn gwahodd masnachwyr o bob rhan o'r de-orllewin
Gwahoddir masnachwyr i arddangos a blasu prif flasau de-orllewin Cymru mewn digwyddiad rhwydweithio bwyd y mis nesaf.
Ymweliad Gweinidogol â dwy o ysgolion Hwlffordd
Mwynhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ymweliadau â dwy o ysgolion Hwlffordd ddydd Gwener, 2 Chwefror.
Disgyblion Saundersfoot yn cael prif rôl yn rhaglen deledu Blue Peter
Yr wythnos hon, bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Saundersfoot yn ymddangos ar Blue Peter, y sioe deledu hynaf yn y byd i blant.
Ceisio sylwadau ar ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb yng Nghyngor Sir Penfro
Gofynnir i aelodau'r cyhoedd roi eu barn ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol am y pedair blynedd nesaf.
Disodli polion baneri Castell fel rhan o brosiect adfywio
Mae dau bolyn baneri Castell Hwlffordd, a ddifrodwyd ar ôl stormydd diweddar, wedi cael eu tynnu oddi yno dros dro.
Llwybr Pwll Castell Penfro ar gau ar gyfer uwchraddiadau
Bydd llwybr Pwll y Castell ar gau ar hyd ei ochr ogleddol o ddiwedd y mis tra bydd Cyngor Sir Penfro yn gosod rheiliau newydd.
Staff maes awyr yn cael diolch am eu rôl allweddol wrth gefnogi’r gwasanaethau brys
Mae rôl allweddol Maes Awyr Hwlffordd a’i staff wrth gadw hofrenyddion y gwasanaethau brys yn hedfan ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos wedi cael ei chanmol gan dimau golau glas.