Newyddion
Canfuwyd 925 eitem, yn dangos tudalen 1 o 78
Cyfleuster ‘Changing Places’ newydd yn helpu i wneud Cyfnewidfa Drafnidiaeth Hwlffordd yn hygyrch i bawb
Mae hwb mawr i hygyrchedd a chynhwysiant wedi cyrraedd canol Sir Benfro, wrth i gyfleuster toiledau ‘Changing Places’ wedi’i gyfarparu’n llawn agor yng Nghyfnewidfa Drafnidiaeth newydd Hwlffordd.
Rhybuddio trigolion i fod yn ofalus rhag twyll ad-daliad y Dreth Gyngor
Mae Cyngor Sir Penfro yn rhybuddio trigolion i barhau i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau o negeseuon sgam sy'n honni bod gan bobl hawl i ad-daliad y Dreth Gyngor.
Gorfodi gan y Cyngor yn arwain at euogfarn am dorri cyfraith rheoli cŵn peryglus
Mae perchennog ci wedi cael gorchymyn i dalu £1,082.50 ar ôl torri hysbysiad a osodwyd yn dilyn ymosodiad gan gi.
Cofrestr Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro yn ailagor
Mae Cofrestr Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro wedi ailagor i geisiadau newydd o 28 Hydref 2026, gan ganiatáu i aelwydydd sy'n chwilio am dai cymdeithasol yn Sir Benfro wneud cais am gymorth tai.
Dull perchnogaeth gyfrifol anifeiliaid anwes yn lansio ar gyfer tenantiaid y Cyngor
Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o lansio Polisi Perchnogaeth Gyfrifol Cŵn ac Anifeiliaid Anwes newydd sydd â’r bwriad o gefnogi tenantiaid tai cymdeithasol, hybu lles anifeiliaid ac annog perchnogaeth gyfrifol anifeiliaid anwes yn holl gartrefi'r Cyngor.
Digwyddiad cymorth busnes yn dod i Ganolfan Hamdden Abergwaun
Gwahoddir busnesau, entrepreneuriaid a busnesau newydd uchelgeisiol o bob rhan o Sir Benfro i Ddigwyddiad Cymorth Busnes am ddim yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ddydd Llun 2 Tachwedd, rhwng 9am a 12pm.
Cyhoeddi enwebiadau Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro
Mae dros 200 o enwebiadau wedi dod i law ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro, sy’n dathlu eu hugeinfed pen-blwydd.
Diweddariad ar bolisi dyrannu tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro
Yn ddiweddar, mae Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Penfro, ar y cyd â'i bartneriaid tai, wedi cwblhau adolygiad o Bolisi Dyrannu Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro.
Sgôr ragorol i Amlosgfa Parc Gwyn
Mae Amlosgfa Parc Gwyn wedi derbyn sgôr "Rhagorol" yn dilyn ei harolygiad tair blynedd gan Ffederasiwn yr Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA).
Wyneb yn Wyneb â Kyffin mewn arddangosfa newydd sbon yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd
Mae arddangosfa newydd sbon yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, yn cynnig y cyfle i ymwelwyr ddarganfod ochr llai adnabyddus o waith un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru, Syr Kyffin Williams.
Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog rhagor o deuluoedd i ystyried mabwysiadu
Mae Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi creu eu teuluoedd drwy fabwysiadu yn annog eraill i ystyried darparu cartref mabwysiadol sefydlog a diogel i blentyn mewn gofal yng Nghymru.
Sêr Boccia ifanc yn mynd amdani mewn twrnameintiau Sir
Fe wnaeth pobl ifanc o ysgolion a Chanolfannau Adnoddau Dysgu ledled Sir Benfro arddangos eu sgiliau, eu gwaith tîm a'u penderfyniad yn Nhwrnameintiau Boccia Ysgolion a Chanolfannau Adnoddau Dysgu eleni.