Newyddion
Canfuwyd 522 eitem, yn dangos tudalen 1 o 44
Annog y cyhoedd i roi eu barn ar ddyfodol gwastraff ac ailgylchu yn Sir Benfro
Mae strategaeth amgylcheddol ddrafft, sy'n ymdrin â chynigion ar gyfer dyfodol gwastraff ac ailgylchu, glanhau strydoedd a mannau gwyrdd yn Sir Benfro wedi cael ei lansio gan Gyngor Sir Penfro.
Tirlithriad arall ar lwybr arfordir Coppet Hall
Yn dilyn nifer o dirlithriadau a ddigwyddodd yn hwyr wythnos diwethaf ar lwybr beicio Wisemans Bridge i Coppet Hall, mae rhan fach o'r llwybr ar gau.
Cyhoeddi ymgeiswyr isetholiad Cyngor Sir Hwlffordd Prendergast
Mae'r ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i'r Cyngor Sir yn ward Prendergast Hwlffordd wedi cael eu cyhoeddi.
Mwy am Brosiect Addasu'r Arfordir wrth i gynlluniau ddatblygu ar gyfer Niwgwl
Bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnal dau ddigwyddiad cyhoeddus i ddangos i bobl sut mae ein cynlluniau ar gyfer addasu i effeithiau newid hinsawdd yn Niwgwl wedi datblygu dros amser.
Arolygiad ardderchog ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod
Mae'r llywodraethwyr a'r staff yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn falch iawn eu bod wedi derbyn eu hadroddiad arolygu gan Estyn heddiw, dydd Gwener 10 Ionawr, yn dilyn arolygiad llawn yn gynnar ym mis Tachwedd 2024. Mae'r adroddiad disglair yn canmol yr ysgol am ei gofal a'i chefnogaeth i ddisgyblion.
Cyfle i roi eich barn ar sut mae'r Cyngor yn gwella llesiant yn Sir Benfro
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Penfro yn paratoi ei amcanion llesiant newydd sy'n manylu sut fydd yr Awdurdod yn gwneud gwahaniaeth o ran gwella llesiant pobl a chymunedau lleol.
Cyngor yn cytuno i newid i bremiwm treth gyngor eiddo gwag hirdymor
Mae Cynghorwyr Sir Penfro wedi pleidleisio i adolygu a symleiddio'r premiwm treth gyngor eiddo gwag hirdymor.
Digwyddiad ysgol a chlybiau yn helpu merched i ddod o hyd i chwaraeon newydd i'w mwynhau
Mae dwsinau o ferched wedi mwynhau'r cyfle i roi cynnig ar gyfres o wahanol fathau o chwaraeon diolch i ddigwyddiad Chwaraeon Sir Benfro a chlybiau cymunedol lleol.
Galw isetholiad y Cyngor Sir ar gyfer ward Hwlffordd: Prendergast
Bydd isetholiad yn cael ei gynnal i lenwi sedd wag yn ward Hwlffordd: Prendergast.
Ymdrech gydweithredol i fynd i'r afael â phori anghyfreithlon
Mae Cyngor Sir Penfro yn ymuno â Heddlu Dyfed-Powys mewn ymgais i fynd i'r afael â phroblem gynyddol ceffylau ar ardaloedd cyhoeddus yn y sir.
Mae’r ymgynghoriad ar y gyllideb yn parhau, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud eich dweud!
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar bennu cyllideb Cyngor Sir Penfro yn rhedeg tan 5 Ionawr.
Perfformiad euraidd gan Chwaraeon Sir Benfro
Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Penfro wedi cyrraedd safon Aur Partneriaethau insport, gan gydnabod eu hymrwymiad a'u hangerdd i ddarparu cyfleoedd cynhwysol i bobl anabl ar draws ardal yr awdurdod lleol.