Newyddion
Canfuwyd 609 eitem, yn dangos tudalen 12 o 51

Sir Benfro yn dathlu carreg filltir drwy gyrraedd cysylltedd gigabit o 60%
Bellach mae gan fwy na hanner y sir fand eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigabit ac mae Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn anelu at gael y sir wedi'i chysylltu'n llawn â gwell band eang.

Cais am sylwadau ar ganllawiau cynllunio ar gyfer datblygiad carafanau, gwersylla a chabanau gwyliau
Mae Cyngor Sir Penfro eisiau clywed eich barn ar ganllawiau cynllunio sy'n ymwneud â datblygiadau carafanau, gwersylla a chabanau gwyliau.

Sesiynau galw heibio cyhoeddus Saundersfoot yn lansio ymgynghoriad teithio llesol
Mae angen mewnbwn gan y cyhoedd ar gyfer cynnig tair rhan i wella mynediad i gerddwyr a beicwyr yn Saundersfoot.

Cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024
Mae enwau’r unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2024 wedi’u cyhoeddi.

Pobl greadigol yn creu cyswllt yn Abergwaun: Meistroli’r cyfryngau cymdeithasol a sbarduno cydweithio
Daeth cerddorion, ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a chrewyr cynnwys ynghyd ar gyfer noson ysbrydoledig o gydweithio a sgwrsio yn nigwyddiad diweddaraf Gorllewin Cymru Greadigol.

Creu Rhodfa Pabi deimladwy yn Aberdaugleddau
Unwaith eto, creodd pobl ifanc deyrnged addas i anrhydeddu Dydd y Cofio drwy greu Rhodfa Pabi ar hyd Hamilton Terrace.

Cynllunio dyfodol gwyrddach yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Mae dysgwyr yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn cael eu hysbrydoli i feddwl am ddyfodol ym maes ynni adnewyddadwy wrth iddynt ddarganfod mwy am sut mae'r sector ynni'n newid yn Sir Benfro.

Ymchwil newydd yn amlygu’r arbenigedd a’r cymorth a ddarperir i annog mwy o bobl i faethu
Gan fod mwy na 7,000 o bobl ifanc yn derbyn gofal ledled Cymru, mae’r angen am fwy o ofalwyr maeth yn gynyddol ddybryd.

Mwy o ysgolion Sir Benfro yn cefnogi bod heb ffôn symudol
Mae ysgolion yn Sir Benfro yn arwain y ffordd o ran lleihau problemau gyda ffonau symudol ac mae'r Cyngor ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu polisi i'w gefnogi.

Y Cymorth Cywir ar yr Adeg Gywir
Wythnos Genedlaethol Diogelu: 11-15 Tachwedd 2024

Y Cabinet yn cymeradwyo grantiau Gwella Sir Penfro gwerth mwy na hanner miliwn o bunnoedd
Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Penfro ddeg cais gan grwpiau lleol am gyllid grant Gwella Sir Penfro, elfen gymunedol y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi.

Ceisiadau am gyllid grant gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer prosiectau trafnidiaeth
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio cyllid grant gwerth £10.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gwella trafnidiaeth a theithio llesol pwysig.